Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi penodi Les Reed, cyn-gyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, i ofalu am strategaeth y clwb.
Mae e’n ymuno â’r clwb er mwyn helpu’r bwrdd i lunio’r strategaeth newydd wrth iddyn nhw chwilio am reolwr newydd yn dilyn y penderfyniad i beidio â chynnig cytundeb newydd i Dean Keates.
Daw hyn ar ôl torcalon i’r clwb wrth golli’r cyfle am ddyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed.
Ar ôl cael ei benodi, dywed Les Reed fod y cyfle i weithio i Wrecsam yn un “eithriadol o ddiddorol ac yn her ro’n i eisiau ymgymryd â hi”.
Mae’n dweud bod y cyfle’n ei atgoffa o’i gyfnod yn Southampton yn yr Adran Gyntaf, wrth iddyn nhw geisio adennill eu statws fel tîm yn yr Uwch Gynghrair, ac y bydd recriwtio chwaraewyr yn hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Gyrfa
Yn y gorffennol, fe fu Les Reed, 68, yn rheolwr ar glwb Charlton ac yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ac yn Is-gadeirydd Southampton.
Treuliodd e gyfnod yn rhan o dîm hyfforddi Lloegr o dan arweiniad Kevin Keegan, ac roedd e’n gyfarwyddwr technegol y Gymdeithas Bêl-droed rhwng 2002 a 2004 ac eto rhwng 2019 a 2020.
Daw’r newyddion am ei benodiad bron i bedwar mis ar ôl i’r actorion byd-enwog Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb.