Mae cefnogwyr pêl-droed yng Nghymru yn cael eu hannog i bleidleisio i ddewis eu hoff ‘chant’ i gefnogi’r tîm cenedlaethol yn yr Ewros.

Mae naw ‘chant’ Cymraeg neu ddwyieithog wedi cyrraedd tair rhestr fer cystadleuaeth ‘Gwlad y Chants’.

Bydd modd pleidleisio ar gyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru rhwng yfory (dydd Mercher, Mehefin 2) a dydd Gwener (Mehefin 4).

Ymhlith y beirniaid roedd gohebydd ‘Sgorio’ Sioned Dafydd, cyflwynydd ‘Y Wal Goch’ Yws Gwynedd, prif leisydd ‘Y Cledrau’ Joseff Owen, a’r cefnogwr Gwenno Teifi.

Sylwadau’r beirniaid

“Mae chants yn ran mor bwysig o’r profiad o wylio pêl-droed ac o’r diwylliant yn gyffredinol ac mae’n gymaint o hwyl fod yn rhan o dorf yn gweiddi a’n mwynhau,” meddai Joseff Owen.

“Dwi’n meddwl dros y blwyddyn diwethaf heb ffans yn gallu mynd i wylio ‘da ni’n gweld eu colli nhw mwy nag erioed.”

I Sioned Dafydd, mae’n rhaid i chant da “fod yn eithaf doniol”.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n glou iawn,” meddai.

“Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!”

Bydd enillydd pob categori yn derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan EURO2020 gyda’r prif enillydd yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru yn y dyfodol.

Mae Gwlad y Chants yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y terasau yn y dyfodol.

Dywed Gwenno Teifi;

“Ni ‘di dod yn bell o pan wnes i ddechrau mynd i weld Cymru yn clywed ‘WALES, WALES’ i ble ry’n ni nawr,” meddai Gwenno Teifi.

“Felly fi’n excited i weld bach o chants newydd, Cymraeg yn y mix.”

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at glywed y ‘chants’ buddugol yn cael eu canu wrth gefnogi Cymru yn EWRO2020,” meddai Dafydd Vaughan, Swyddog Maes ac Ieuenctid Menter Iaith Sir Benfro.

“Gyda’r tîm cenedlaethol yn chwarae dwy gêm gyfeillgar yr wythnos hon, mae’n gyfle gwych i ni rhoi tro i’r ‘chants’ yma cyn pleidleisio am eich ffefryn!”

Y rhestrau byrion:

Cynradd:

  • Osian Jones, Aberaeron
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe
  • Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi

Uwchradd:

  • Elin ac Elain, Ysgol David Hughes, Porthaethwy
  • Ffotosynthesis, Canolfan Glantaf, Caerdydd
  • Gethin Ellis, Llanfair Caereinion

Oedolion:

  • Yr un tal, Moelfre, Powys
  • Ken Thomas, Castell Nedd
  • Elgan Rhys Jones, Waunfawr

Gwrandewch ar yr holl ‘chants’ yma

‘Ni Fydd y Wal’

Alun Rhys Chivers

Wrth i’r Ewros agosau, mae gan Yws Gwynedd raglen deledu a chân newydd i danio’r parti

Anthem Radio Cymru ar gyfer yr Ewros yn gyfle i “ddod â chefnogwyr ynghyd”

Yn ôl Ifan Evans, mae cân Yws Gwynedd, a’r ymgyrch, yn “gyfle i greu dipyn o ffỳs o gwmpas y tîm cenedlaethol”