Tra bod pêl-droedwyr Cymru’n aros yn eiddgar am yr alwad i’r garfan genedlaethol ar gyfer yr Ewros, sy’n dechrau ar Fehefin 11, mae’r canwr Yws Gwynedd eisoes wedi derbyn cais i gynrychioli ei wlad – gyda’i gân ‘Ni Fydd y Wal’ sydd wedi’i mabwysiadu gan Radio Cymru fel eu trac sain swyddogol ar gyfer y gystadleuaeth.