Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi beirniadu sawl penderfyniad gan y dyfarnwr ar ôl i’r Alltudion golli’r cyfle i ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Morecambe yn Wembley ddoe (dydd Llun, Mai 31).
Cafodd Morecambe gic o’r smotyn yn ystod ail hanner yr amser ychwanegol ar ôl i’r dyfarnwr Bobby Madley benderfynu bod Ryan Haynes wedi llorio John O’Sullivan.
Ond fe ddigwyddodd y drosedd honedig y tu allan i’r cwrt cosbi, a sgoriodd Carlos Mendes Gomes y gôl hollbwysig.
Roedd hyn ar ôl penderfyniad dadleuol yn ystod yr hanner cyntaf i beidio â rhoi cic o’r smotyn i Gasnewydd pan darodd Kyle Letheren, golwr Morecambe, Scot Bennett yn ei ben.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morecambe yn codi i’r Adran Gyntaf am y tro cyntaf ac yn parhau’n ddi-guro mewn tair gêm yn Wembley.
‘Dau benderfyniad dyfarnu gwael iawn’
“Aeth hi o’i le gyda dau benderfyniad dyfarnu gwael iawn sydd wedi’n costio ni’n ddrud yn Wembley er i ni ddominyddu’r gêm,” meddai Mike Flynn wrth longyfarch Morecambe.
“Os oedd cyswllt, fe ddigwyddodd y tu allan i’r cwrt cosbi ac mae e wedi manteisio arni ac yn ystod yr hanner cyntaf, mae eu golwr nhw wedi taro’n chwaraewr ni yn ei ben.
“Dw i eisiau canolbwyntio ar ba mor falch ydw i o fy chwaraewyr a’r staff o ran y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
“Dw i jyst wedi siomi’n fawr dros ein cefnogwyr sydd wedi gorfod ein gweld ni’r ochr anghywir i’r penderfyniadau hyn eto yn Wembley.”
Y dyfodol
Yn dilyn y gêm, mae sylwadau Mike Flynn wedi codi amheuon am ei ddyfodol ei hun yn rheolwr ar Gasnewydd.
Cafodd ei benodi bedair blynedd yn ôl, ac mae’r Alltudion wedi colli allan ar ddyrchafiad ddwy waith yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Fe fu’n dymor hir ac anodd, mae angen i ni adfer nawr a bydda i’n siarad â’r bwrdd wedyn a gweld lle’r awn ni o fan hyn,” meddai.
“Mae gyda fi’r awydd o hyd, mae pêl-droed yn rhedeg trwy fy ngwythiennau.
“Dw i’n gwybod fy mod i wedi gwella fel rheolwr, rydyn ni’n chwarae pêl-droed da iawn, ac mae’n bryd i ni fyfyrio nawr.”