Mae Joe Rodon, amddiffynnwr ifanc tîm pêl-droed Cymru, wedi canu clodydd Jose Mourinho, ei gyn-reolwr yn Spurs, am ei helpu i ddatblygu’n chwaraewr sy’n gallu ymdopi â gofynion Uwch Gynghrair Lloegr.

Bydd y Cymro 23 oed yn teithio i’r Ewros gyda Chymru ar ôl tymor cyntaf anodd yng ngogledd Llundain ers iddo fe adael Abertawe.

Dim ond 66 o weithiau roedd e wedi chwarae cyn gadael yr Elyrch fis Hydref y llynedd am ryw £11m.

Doedd e ddim yn gallu chwarae yn ffeinal Cwpan Carabao gan ei fod e eisoes wedi chwarae i Abertawe cyn symud i Spurs, a doedd e ddim yn y garfan ar gyfer Cynghrair Europa chwaith.

Dim ond 14 o weithiau mae e wedi chwarae i’w glwb newydd, er ei fod e wedi creu argraff pan gafodd e gyfleoedd.

“Fe fu’n flwyddyn anodd, llanw a thrai, ond dw i’n credu ei fod e wedi ymdrin â fi’n dda iawn,” meddai Joe Rodon am Jose Mourinho, a gafodd ei ddiswyddo a’i ddisodli gan Ryan Mason.

“Mae wedi fy ngwneud i’n dipyn gwell, yn feddyliol hefyd, ac mae’n mynd i fod o fudd wrth symud ymlaen.

“Mae pawb eisiau chwarae gemau, wrth gwrs, ond weithiau dydy hi ddim felly.

“Rhaid i chi godi’ch hun, cadw i fynd a gobeithio y cewch chi eich gwobrwyo yn y pen draw.”

Helpu Cymru

Er mai prin fu ei gyfleoedd hyd yn hyn yn Spurs, mae Joe Rodon yn teimlo bod ymarfer gyda chwaraewyr fel ei gyd-Gymro Gareth Bale ac eraill yn ei glwb yn mynd i fod o fudd i Gymru yn yr Ewros a chyn hynny wrth iddyn nhw herio Ffrainc yr wythnos hon.

Mae llinell flaen Ffrainc yn cynnwys Kylian Mbappe, Karim Benzema ac Antoine Griezmann.

“Byddai pob chwaraewr yn hoffi chwarae mwy o funudau,” meddai Rodon, a ddaeth yn gapten yn erbyn y Ffindir fis diwethaf ar ôl i Bale adael y cae.

“Ond fe ges i [y cyfle] i ymarfer bob dydd a gweithio’n galed gydag ambell chwaraewr o’r radd flaenaf.

“Fe fu’r wyth mis diwethaf o brofiad yn wych i fi wrth ymarfer gyda chwaraewyr Spurs.”

Er nad yw e wedi chwarae am 90 munud ers Ebrill 16, mae’n teimlo ei fod e’n barod i wneud hynny dros Gymru.

“Mae gyda ni ddwy gêm nawr [yn erbyn Ffrainc ac Albania] i adeiladu ffitrwydd ar gyfer gemau,” meddai.

“Rydyn ni i gyd yn ysu ac yn methu aros i ddechrau.

“Mae Ffrainc o’r safon uchaf, yn bencampwyr byd ar ôl y gystadleuaeth fawr olaf, ond rydyn ni wedi cyffroi o gael y cyfle.”