Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau ymadawiad Sol Bamba wrth i’w gytundeb ddod i ben.

Roedd e wedi dychwelyd i’r garfan yn ddiweddar ar ôl gwella o ganser.

Hefyd yn gadael y clwb mae Joe Day, Jonny Williams, Joe Bennett a Junior Hoilett.

Ymunodd Bamba, Bennett a Hoilett â’r Adar Gleision yn 2016, ac roedden nhw’n flaenllaw yn y garfan enillod ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2017-18.

Yn ôl y clwb, maen nhw wedi gwneud “cyfraniad arwyddocaol” i hanes diweddar yr Adar Gleision.

Mae’r clwb wedi dymuno’n dda iddyn nhw i gyd ar gyfer y dyfodol.