Mae’r gosb gafodd y cricedwr Ollie Robinson gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) am ddefnyddio iaith hiliol a rhywiaethol mewn cyfres o negeseuon Twitter yn y gorffennol yn rhy eithafol, yn ôl nifer o wleidyddion sydd wedi lleisio’u barn am y sefyllfa – ond mae aelod seneddol Llafur Canol Caerdydd yn anghytuno.
Mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, yn galw ar y bwrdd llywodraethu i “feddwl eto” ar ôl i’r bowliwr cyflym gael ei wahardd am y sylwadau a ddaeth i’r fei ar ei ddiwrnod cyntaf yng nghrys Lloegr yn Lord’s yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd y negeseuon eu postio gan y chwaraewr 27 oed pan oedd e’n 18 ac 19 oed, ond roedd yr amseru’n destun embaras i’r ECB, ar ddiwrnod pan oedden nhw’n dathlu amrywiaeth a’r ymdrechion i ddileu gwahaniaethu o bob math o’r byd criced.
Aeth Robinson, sy’n chwarae i Sussex, yn ei flaen i gipio saith wiced yn ei gêm brawf gyntaf yn erbyn Seland Newydd.
Ond mae e wedi’i hepgor o’r garfan wrth i ymchwiliad gael ei gynnal gan nad yw hi’n glir a oedd e dan gytundeb gyda Swydd Efrog adeg cyhoeddi’r negeseuon.
‘Dros ben llestri’
Yn ôl Oliver Dowden, “roedd trydariadau Ollie Robinson yn sarhaus ac yn anghywir”.
Ond mae’n dweud hefyd eu bod nhw’n “ddegawd oed ac wedi’u hysgrifennu gan rywun yn ei arddegau”.
“Mae’r llanc yn ei arddegau bellach yn ddyn ac mae e’n gwbl briodol wedi ymddiheuro,” meddai.
“Mae’r ECB wedi mynd dros ben llestri drwy ei wahardd ac fe ddylen nhw feddwl eto.”
Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, mae Boris Johnson yn “gefnogol” o sylwadau’r Ysgrifennydd Diwylliant.
Mae nifer o Geidwadwyr eraill wedi ategu’r sylwadau hefyd, gan gynnwys yr aelod seneddol Steve Double sy’n galw am “bersbectif”, tra bod Royston Smith yn dweud y dylai’r ECB “edrych yn hir arnyn nhw eu hunain” a bod yr ymateb yn “flinderus”.
Ond mae Jo Stevens, yr aelod seneddol Llafur dros Ganol Caerdydd a llefarydd diwylliant y blaid, “mae hi’n briodol fod yr ECB wedi cymryd y camau maen nhw’n teimlo sy’n angenrheidiol ac yn briodol er mwyn herio hiliaeth a ffyrdd eraill o wahaniaethu yn eu camp”.
“Ddylen nhw ddim cael eu beirniadu gan yr Ysgrifennydd Gwladol am wneud hynny.”