Mae Kieran O’Connor, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dweud bod cais gan y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon i gynnal Cwpan y Byd 2030 yn “gwneud synnwyr”.
Mae proses ymgeisio ffurfiol Cwpan y Byd yn dechrau yn 2022.
Cyfeiriodd Kieran O’Connor at y gystadleuaeth Ewro 2020 yr haf hwn er mwyn wfftio’r pryderon am gynnal Cwpan y Byd 2030 ar draws pum gwlad.
“Nid oes gennym y lledaeniad daearyddol sydd gan yr Ewros hyn,” meddai.
“Gallwch hedfan o Gaerdydd i Ddulyn mewn llai nag awr, tra bod gennym daith chwe awr o’n blaenau [i Baku, Azerbaijan].
“Mae dadl hefyd i ddweud ei bod hi’n hen bryd i’r Deyrnas Unedig gynnal twrnament beth bynnag.
“Os byddwn yn gwneud cais, bydd yno gystadleuaeth gref, ond rwy’n gobeithio y gwnawn ni geisio.”
Ym mis Mawrth, dywedodd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, mai dyma’r “amser iawn” i’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon wneud cais ar y cyd.
Dywedodd datganiad ar y cyd ar y pryd gan y pum cymdeithas bêl-droed eu bod “wrth eu boddau” o gael cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad ar raglen Chwaraeon Radio Wales, dywedodd Kieran O’Connor fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn “deialog reolaidd” gyda’r cymdeithasau pêl-droed eraill, a’u bod yn gobeithio y bydd y prif weinidog yn “cadw at ei air” dros gyllid arfaethedig ar gyfer y twrnament.