Mae Bolton Wanderers wedi arwyddo cyn-chwaraewr canol cae Casnewydd, Josh Sheehan, ar gytundeb dwy flynedd.

Treuliodd y Cymro 26 oed dair blynedd gyda’r Alltudion ar ôl ymuno o Abertawe yn 2018.

Gwnaeth 179 ymddangosiad i’r clwb cyn gadael ar ôl iddynt golli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle League Two yn erbyn Morecambe yn Wembley ar 31 Mai.

“Rwy’n falch iawn o arwyddo â chlwb mor fawr gyda’r uchelgeisiau sydd ganddynt,” meddai wrth wefan y clwb.

“Dyna un o’r rhesymau pam ymunais. “Rwyf am gael Bolton yn ôl i ble maen nhw i fod.

“Wrth siarad â’r rheolwr dywedodd pa mor awyddus yr oedd o i fy arwyddo a dweud wrtha i am ei uchelgeisiau, ac fe wnaeth hynny fy nenu i fod yn rhan ohono.

“Hefyd mae ei arddull o bêl-droed a’r ffordd mae e eisiau chwarae yn addas i mi felly dwi’n teimlo ei fod yn bartneriaeth dda.”