Mae tîm ParalympicsGB wedi cyhoeddi fod y saethwr Dave Phillips wedi’i ddewis i gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo eleni.
Bydd Dave Phillips, sy’n dod o Gwmbrân, yn ymuno â phedwar aelod arall sydd wedi’u henwi’n barod – Jess Stretton a John Stubbs, dau sydd wedi ennill medalau aur Paralympaidd, Nathan MacQueen, a Hazel Chaisty.
Er ei fod wedi ennill ei le yn ystod Pencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd 2019 yn yr Iseldiroedd, nid oedd posib cadarnhau lle Dave Phillips yn y tîm nes ar ôl y broses ddosbarthu.
Yn dilyn y broses ddosbarthu yn Lausanne fis diwethaf, mae’r tîm nawr yn gallu cadarnhau ei fod wedi’i ddewis.
“Sgil ac ychydig o lwc”
“Roedd peidio gallu dweud wrth bobol yn fy llethu braidd, oherwydd mae bron i ddwy flynedd ers i mi gymhwyso,” meddai Dave Phillips am y cyhoeddiad.
“Ond dw i’n berson â’m gwydr yn hanner llawn, a dw i wedi cael 365 diwrnod ychwanegol i baratoi oherwydd Covid.”
Treuliodd Dave Phillips y rhan fwyaf o 2020 yn ynysu yn ei gartref yng Nghwmbrân, gan olygu na allai ymarfer gyda’i dîm yn y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol yn Lilleshall.
Creodd gym yn ystafell wydr ei gartref, gan ymuno â sgyrsiau rhithiol yn aml er mwyn cynnal ei waith hyfforddi.
Dywedodd fod peidio gweld ei ŵyr newydd na’i dad yn anodd iawn, ond fe wnaeth fwynhau treulio amser ychwanegol gyda’i wraig.
Mae Dave Phillips yn canolbwyntio ar Tokyo nawr, a dyweda ei fod wedi dysgu llawer ers cystadlu yn Rio yn 2016, pan ddaeth yn bumed fel rhan o dîm cymysg.
“Mae saethyddiaeth yn gêm ailadroddus, felly dw i’n gwybod mod i angen cadw at y broses, a gyda sgil ac ychydig o lwc gobeithio y gallaf ddod â’r fedal adre.”
“Wrth fy modd”
“Dw i wrth fy modd yn cadarnhau fod Dave wedi’i ddewis i fod yn rhan o dîm ParalympicsGB,” meddai Penny Briscoe, Chef de Mission Tokyo 2020.
“Llongyfarchiadau mawr, a chroeso i’r tîm, Dave!
“Gyda pum saethwr wedi’u cadarnhau nawr ar gyfer Tokyo 2020, allwn ni ddim disgwyl i weld yr holl garfan yn perfformio ar lwyfan y byd.”
“Barod i fynd”
“Dw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu cyhoeddi mai Dave yw ein pumed saethwr yn dilyn ailasesiad dosbarthu,” meddai Tom Duggan, Arweinydd y Tîm Paralympaidd.
“Mae Dave wedi gweithio’n galed i gael ei ddewis dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dw i’n gwybod y bydd e’n barod i fynd i Tokyo.”
Bydd Pencampwriaeth Cymhwyso olaf y cystadlaethau saethyddiaeth yn cael ei gynnal yng Ngorffennaf, gyda nifer o athletwyr eraill yn trio ennill eu lle yn nhîm ParalympicsGB.
Mae disgwyl y bydd 240 o athletwyr yn cynrychioli Prydain yn Japan pan fydd y gemau, a oedd fod i gael eu cynnal yn 2020, yn digwydd rhwng 24 Awst a 5 Medi 2021.