Mae chwaraewyr ifanc Cymru yn ‘uchelgeisiol a pharod’ i lwyddo yn Ewro 2020, yn ôl rheolwr dros dro Cymru Rob Page.

Cymru sydd â’r drydedd garfan ifancaf o’r holl dimau sy’n cystadlu yn y twrnament.

Dim ond Lloegr a Thwrci, sydd yn yr un grŵp â Chymru, sydd wedi teithio gyda charfanau ifancach.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir yn Baku ddydd Sadwrn (12 Mehefin), cyn herio Twrci ym mhrifddinas Azerbaijan bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ac yna yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar  20 Mehefin.

Fe wnaeth Cymru oleuo Ewro 2016 yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal, y pencampwyr yn y pen draw.

Mae wyth o’r garfan honno wedi teithio y tro yma – Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies, Chris Gunter, Danny Ward, Joe Allen, Jonny Williams a Wayne Hennessey – gydag 19 o’r 26 chwaraewr â 25 cap neu lai.

Mae saith o’r garfan â llai na deg o gapiau ac mae Rubin Colwill wedi chwarae dim ond 191 o funudau o bêl-droed ar y lefel uchaf ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd fis Chwefror.

“Mae gen i grŵp gwych a chymysgedd da iawn,” meddai Rob Page.

“Mae gan y rhai hŷn gymeriad, natur a phersonoliaethau gwych.

“Ond mae gennym chwaraewyr ifanc, uchelgeisiol sy’n barod yn dod i mewn i’r garfan sydd eisiau gwisgo’r crys.

“Ni all neb orffwys ar eu rhywfau.

“Mae ’na gymysgedd dda ac ar ben hynny maen nhw’n gymeriadau da.

“Mae’n debyg i amgylchedd clwb ac mae hynny’n anodd ei gyflawni pan rydych ddim ond wedi’u cael gyda’i gilydd yn achlysurol drwy gydol y flwyddyn.”

“Dim ofn”

“Does dim ofn o gwbl gyda chwaraewyr ifanc,” ychwanegodd Rob Page.

“Rydych chi wedi gweld hynny gyda Rubin, mae’n haeddu bod yma.

“Edrychwch ar berfformiad Joe Morrell yn erbyn Ffrainc. Roedd o’n mynnu cael y bêl, roedd e eisiau bod y chwaraewr gorau ar y cae.

“Nid yw’n ymwneud â chael pêl-droedwyr talentog yn unig.

“Mae’n rhaid cael y cymeriadau cywir hefyd ac mae gan ein chwaraewyr i gyd hynny.”

Cymru’n dechrau hyfforddi yn Baku

Bydd carfan Cymru yn dechrau hyfforddi yn Baku, Azerbaijan, heddiw (dydd Mawrth, 8 Mehefin) wrth i’w gêm agoriadol yn nhwrnament Ewro 2020 agosáu.

Mae’r paratoadau i’r ganolfan hyfforddi wedi’u cwblhau ac yn barod i groesawu carfan Rob Page.