Fe fydd yr elusen Gôl Cymru, a gafodd ei sefydlu gan gefnogwyr pêl-droed Cymru, yn dychwelyd i’w gwreiddiau wrth ddilyn y tîm cenedlaethol i Baku ar gyfer yr Ewros.

Cafodd yr elusen ei sefydlu ym mhrifddinas Azerbaijan yn 2002 er mwyn helpu achosion da a phobol leol, ac fe fydd y criw yn dychwelyd yno ac yn mynd i Rufain i barhau â’u gwaith yn ystod y gystadleuaeth.

Bydd Gôl Cymru yn rhoi €1000 i ganolfan i blant amddifad, i ganolfan ar gyfer pobol ddigartref ac i blant sy’n byw’n amddifad ar strydoedd Baku, ac fe fyddan nhw’n prynu llyfrau gwaith a setiau teledu i 95 o blant a phobol ifanc.

“Mae’r plant wir yn edrych ymlaen at gyfarfod â chefnogwyr Cymru ac mae ganddyn nhw lawer o gwestiynau am bêl-droed ar eu cyfer nhw,” meddai Nigar Mensimli o ganolfan Ümid Yeri.

“Mae’r ymweliad hwn yn weithred unigryw, yn arwydd o garedigrwydd a dynoliaeth.

“Dw i’n sicr y bydd gwên ar eu hwynebau nhw i gyd ar ôl y cyfarfod hwn.”

Cerbyd deintyddol

Fel rhan o waith Gôl Cymru, byddan nhw’n codi arian i sefydlu gwasanaeth deintyddol symudol ar ffurf cerbyd fydd yn teithio o amgylch Baku yn rhoi triniaeth i blant difreintiedig.

Gall y cerbyd drin 25 o blant bob dydd, a bydd Gôl Cymru’n ariannu’r gwasanaeth am fis ac maen nhw’n gobeithio ymweld â’r cerbyd cyn gêm yn erbyn Bailov Rovers.

Bydd Gôl Cymru hefyd yn rhoi arian i fenter gymdeithasol ‘Enjoy Chocolates’ sy’n codi arian ar gyfer United Aid for Azerbaijan, sy’n cefnogi plant ag anableddau yn Khachmaz a Jalilabad.

Rhufain

Ar ôl gadael Baku, bydd yr elusen yn teithio i Rufain cyn gêm Cymru yn erbyn yr Eidal.

Yno, byddan nhw’n ymweld â Sport Senza Frontiere, elusen sy’n sichrau bod chwaraeon yn hygyrch i bawb, yn enwedig y rhai sy’n cael eu cau allan ac sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig.

“Mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn brysur iawn yn ystod y cyfnod clo yn codi arian,” meddai Eleanor Morgan o Gôl Cymru.

“Mae Baku wedi newid tipyn ers ein hymweliad cyntaf yno, ond rydym bob amser yn cael croeso cynnes.

“Mae’n wych gallu helpu plant difreintiedig y ddinas unwaith eto.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen i weld sut mae chwaraeon yn helpu pobol ifanc yn Rhufain.”