Mae Adam Davies, un o dri golwr yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer yr Ewros, yn dweud y bydd y garfan “yn sefyll gyda’n gilydd ac yn unedig” wrth benlinio cyn gemau.
Fe ddaeth y weithred yn arwydd o gefnogaeth yn y byd chwaraeon i’r ymdrechion i ddileu hiliaeth o’r gêm, gyda nifer o chwaraewyr croenddu Cymru hefyd yn cael eu targedu ar y cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd diwethaf.
Mae ‘cymryd y benglin’ yn dal i fod yn destun trafod ar drothwy’r gystadleuaeth, gyda nifer o wledydd yn dweud y byddan nhw’n gwneud y weithred, tra bod rhai unigolion wedi penderfynu peidio yn ystod gemau paratoadol.
Ond yn ôl Adam Davies, roedd chwaraewyr Cymru’n awyddus i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.
“Ers iddo fe ddechrau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n rhywbeth dw i’n bersonol yn ei gefnogi,” meddai.
“Mae wedi cael ei ategu wrth ddod i ffwrdd gyda Chymru y byddwn ni’n cymryd y benglin ac yn sefyll gyda’n gilydd ac yn unedig.
“Dyna’r neges rydyn ni am ei chyfleu.
“Mae gyda ni lwyfan enfawr, yn enwedig gan fod y gemau hyn am gael eu gwylio gan filiynau o bobol.
“Mae’n rhywbeth roedden ni eisiau ei wneud.”
Dilyn esiampl Cymru?
Wrth ymateb i adroddiadau na fydd rhai gwledydd eraill yn dilyn eu hesiampl, dim ond ar Gymru mae Adam Davies eisiau canolbwyntio.
“Allwn ni ddim rheoli’r hyn mae gwledydd eraill am ei wneud a sut maen nhw’n teimlo,” meddai.
“Byddwn ni jyst yn cyfleu ein neges ni gymaint â phosib, sefyll yn unedig a bydd pawb gyda’i gilydd wrth geisio cyrraedd cynifer o bobol â phosib.”