Mae Dan Biggar wedi tawelu ofnau’r Llewod am ei ffitrwydd ar ôl i faswr Cymru gael ei ddewis yn nhîm Northampton ar gyfer gêm ola’r tymor.
Fe ddaeth e oddi ar y cae yn ail hanner y golled yn erbyn Caerwysg ar ôl cael anaf i’w frest.
Ond fe fydd e’n holliach i herio Caerfaddon dros y penwythnos, ac mae Northampton yn dweud mai “rhagofal” oedd y penderfyniad i’w dynnu fe oddi ar y cae.
“Roedd Dan mewn ychydig o boen, dyna’r cyfan,” meddai’r Cyfarwyddwr Rygbi Chris Boyd.
“Mae e ar gael i’w ddewis y penwythnos hwn.
“Roedd yn rhagofal yn gymaint ag unrhyw beth arall.”