Mae Yan Dhanda, chwaraewr canol cae Abertawe, ymhlith 11 o chwaraewyr sydd wedi’u henwi ar fwrdd cynghori newydd Kick It Out, yr elusen sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth yn y byd pêl-droed.
Yn ôl Kick It Out, bydd y bwrdd yn helpu i lunio ei strategaeth yn y dyfodol.
Ym mis Chwefror, dywedodd Yan Dhanda wrth golwg360 ei fod e am ddangos i bobol Asiaidd fod modd iddyn nhw lwyddo yn y byd pêl-droed hefyd – a bod modd goresgyn agweddau rhagfarnllyd.
“Dw i’n hynod falch o le dw i’n dod ac o le mae fy nheulu’n dod a fyddwn i ddim yn newid hynny o gwbl,” meddai wrth golwg360 bryd hynny.
“Dw i’n un o’r ychydig bobol Asiaidd yn y byd pêl-droed ond mae hynny’n fy nghyffroi ac yn rhoi’r cyfle i fi chwalu’r rhwystrau ac i fod yn arwr i nifer o blant sy’n dod trwodd.
“Dw i’n falch iawn o le dw i’n dod a dyna pam wnaeth derbyn y negeseuon sarhaus fy mrifo gymaint – roedd ceisio fy sarhau i ar sail lle dw i’n dod yn eitha’ trist.”
Daeth hynny ar ôl iddo gael ei sarhau’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl gêm gwpan yr Elyrch yn erbyn Manchester City.
“Neidio ar y cyfle”
Dywedodd Yan Dhanda ei fod e wedi “neidio ar y cyfle” pan gafodd e gynnig i ymuno â’r bwrdd cynghori.
“Rwyf am ddefnyddio’r llwyfan hwn i sicrhau newid cadarnhaol, a thrwy gydweithio gallwn wneud hyn yn bendant,” meddai.
Hefyd ar y bwrdd mae cyn-ymosodwr Abertawe, Rhian Brewster, a dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda’r Elyrch y llynedd.
Y rhestr lawn o chwaraewyr ar y bwrdd yw:
Anita Asante (Aston Villa), Rhian Brewster (Sheffield United), Holly Morgan (Caerlŷr), Yan Dhanda (Abertawe), Gilly Flaherty (West Ham), Joe Jacobson (Wycombe Wanderers), Renee Hector (Watford), Mal Benning (Mansfield), Danny Mills (Dulwich Hamlet), Anwar Uddin (Aldershot), Marcus Gayle (llysgennad Brentford).