Mae Jonny Williams, chwaraewr canol cae Cymru, yn dweud – â’i dafod yn ei foch – ei fod e “wedi bod yn ymarfer troadau Cruyff” ar drothwy’r Ewros.

Roedd gôl wych Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016 yn un o eiliadau mawr y gystadleuaeth, ac fe gafodd ei enwi’n ‘Gôl yr Ewros’ ar ôl iddo droi ar ei sawdl a tharo’r bêl i’r rhwyd.

Roedd Robson-Kanu heb glwb ar y pryd ar ôl cael ei ryddhau gan Reading, a dyna’r sefyllfa mae Williams ynddi ar ôl i Gaerdydd ei ryddhau fis diwethaf, bedwar mis yn unig ar ôl iddo fe symud o Charlton.

“Yn amlwg, dydy hi byth yn beth braf cael eich rhyddhau,” meddai am y profiad o orfod gadael yr Adar Gleision.

“Ond dw i’n teimlo’n hamddenol ac yn dda ynof fi fy hun, dw i’n teimlo’n gryf.

“Ro’n i’n meddwl fy mod i wedi chwarae’n dda [i Gaerdydd] pan ges i’r cyfle, ond wnes i jyst ddim cael lwc wrth gael fy newis yn y tîm.”

Ond y syndod mwyaf iddo yw’r tro pedol honedig mae’r clwb wedi’i wneud, er mai un gêm yn unig ddechreuodd e yn y crys glas.

“Ro’n i’n meddwl yn wreiddiol fy mod i’n aros ar ddiwedd y tymor, felly fe ddaeth yn syrpreis i fi,” meddai.

“Ond ar yr un pryd, dydy pêl-droed ddim yn fy synnu.

“Dw i wedi bod yn y gêm ers deng mlynedd ac wedi profi sawl llanw a thrai.

“Rydych chi’n ei dderbyn e, yn symud ymlaen a dw i’n rhydd eto.

“Dw i wedi bod yn y sefyllfa hon o’r blaen a bydda i’n parhau i frwydro a mwynhau fy mhêl-droed.

“Roedd hi’n siomedig sut aeth pethau yng Nghaerdydd oherwydd ro’n i wedi cyffroi o gael symud yno, ond mae rhywun wedi gwneud penderfyniad ac mae’n rhaid i fi symud ymlaen.”