Mae cyn-asgellwr Cymru Shane Williams yn credu y bydd y Llewod yn trechu pencampwyr y byd De Affrica ar daith y Llewod eleni.
Bydd carfan Warren Gatland yn chwarae tri phrawf yn erbyn De Affrica rhwng diwedd mis Gorffennaf a mis Awst.
Bydd y Llewod yn ymgynnull er mwyn hyfforddi yn Jersey cyn herio Siapan yn Murrayfield ar 26 Mehefin.
Yna bydd y garfan 37 dyn yn hedfan allan ar gyfer wyth gêm yn Ne Affrica, gan gynnwys y gyfres Brawf sy’n dechrau ar 24 Gorffennaf ac yn gorffen ar 7 Awst.
“Dwi’n meddwl bod gan y Llewod garfan ddigon cryf i guro De Affrica,” meddai Shane Williams.
“Maen nhw’n ddwy garfan gref iawn.
“De Affrica yw pencampwyr y byd ac mae ganddynt rai chwaraewyr gorau ar y blaned.
“Ond mae’n debyg mai dyma garfan gryfaf y Llewod sydd wedi bod yn ystod fy oes i.
“Mae gennych chwaraewyr sydd wedi ennill pencampwriaethau a chwaraewyr sy’n gwneud yn dda i’w clybiau a’u gwledydd, gyda phrofiad wedi’i gymysgu â thalent ifanc.
“Mae’n rhaid i chwaraewyr y Llewod chwarae gemau canol wythnos a phrofi i Gatland eu bod yn haeddu lle yn y tîm.”
Mae Williams hefyd yn credu y bydd hanes yn helpu i ysgogi Warren Gatland ar ôl i’r Llewod gael ei threchu 2-1 yn erbyn De Affrica ar daith 2009 pan oedd y gŵr o Seland Newydd yn hyfforddwr y blaenwyr.
“Roeddwn i ar daith 2009 a dyma’r un wnaeth lithro oddi wrthom,” meddai.
“Efallai fod hynny 12 mlynedd yn ôl, ond bydd yr un peth yn wir i Gats a bydd yn benderfynol o fynd yno a sicrhau’r fuddugoliaeth.”