Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd cefnogwyr yn cael mynd i weld Bangor 1876 yn herio Bae Colwyn ddydd Sadwrn (12 Mehefin).
Dim ond 100 o gefnogwyr fydd yn cael bod yn bresennol, a bydd Bangor 1876 yn gweithredu polisi ‘tocynnau yn unig’.
Bydd y clwb yn rhyddhau manylion tocynnau i’w aelodaeth heddiw (9 Mehefin).
Ddydd Llun (7 Mehefin) fe ryddhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wybodaeth ynglyn â dychwelyd cefnogwyr yn raddol.
Roedd hyn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ar gyfer digwyddiadau awyr agored.
Bydd nifer o ddigwyddiadau prawf Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cael eu cynnal yn yr awyr agored dros y pythefnos nesaf.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad : “Bydd dychweliad cefnogwyr i gemau yn yr awyr agored yn cael ei gyflwyno’n raddol ar ôl cwblhau nifer o ddigwyddiadau prawf Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros y pythefnos nesaf.
“Mae hwn wedi’i gynllunio i brofi Protocolau Dychwelyd Gwylwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel y bydd pob clwb yn gallu croesawu cefnogwyr yn ôl i’w caeau a chydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru.”