Yn ystod sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin fe wnaeth Boris Johnson ddymuno “pob lwc i’r Alban a Lloegr, a’r holl genhedloedd cartref a all fod yn cystadlu” yn yr Ewros,

Methodd â chyfeirio at dîm Cymru, sydd bellach wedi cyrraedd Baku yn barod at eu dwy gêm gyntaf.

Fe wnaeth arweinydd yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin, Ian Blackford, grybwyll yr Ewros gan “ddymuno’r gorau” i’r Alban.

“Dw i’n siŵr ein bod ni’n edrych ymlaen i’r Bencampwriaeth Ewropeaidd ddechrau’n hwyrach yn yr wythnos,” meddai Ian Blackford.

“Alla i gymryd y cyfle i ddymuno’r gorau i’n gwlad, yr Alban, Steve Clarke a’r tîm, ac i atgoffa’r tîm ei bod hi’n amser am arwyr?”

Arweiniodd hyn at Boris Johnson yn gwneud yr un fath, gan ddymuno’r gorau i Loegr a’r Alban.

“A Chymru?!”

Gan ymateb i’w sylwadau mae cyfrif swyddogol tîm pêl-droed Cymru wedi trydar gan ddweud “A Chymru?!”

Yn dilyn ei sylw, fe wnaeth Liz Saville-Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, drydan gan ddweud “Annibyniaeth 1 – 0 Yr Undeb”.

“Dw i’n meddwl mai’r gair oedd e’n chwilio amdano oedd @Cymru,” meddai Liz Saville-Roberts.

Fe wnaeth golygydd gwleidyddol ITV, Robert Peston, sylw ar Twitter hefyd yn dweud ei bod hi “braidd yn rhyfedd nad yw’n ymddangos fod Boris Johnson yn gwybod fod Cymru yng ngemau terfynol yr Ewros.”

Yr ymgyrch

Mae’r tîm wedi dechrau hyfforddi yn Baku, cyn i’r Ewros ddechrau ddydd Gwener (11 Mehefin).

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn Baku yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn (12 Mehefin), cyn herio Twrci ym mhrifddinas Azerbaijan bedwar diwrnod wedyn.

Yna, byddan nhw’n teithio i Rufain er mwyn herio’r Eidal ar 20 Mehefin.

Bum mlynedd yn ôl, cyrhaeddodd Cymru’r rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal, a aeth yn eu blaenau i ennill y bencampwriaeth.

Chwaraewyr ifanc Cymru yn ‘uchelgeisiol a pharod’ i lwyddo yn Ewro 2020, medd Rob Page

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir yn Baku ddydd Sadwrn (12 Mehefin)
Cymru v Y Ffindir

Carfan Cymru ar eu ffordd i Baku

Bydd carfan Robert Page yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 12