Mae Ashley Williams yn credu bod gan Gymru garfan fwy talentog eleni na’r un a aeth i rownd gynderfynol y gystadleuaeth bum mlynedd yn ôl.

Mae Cymru wedi setlo yn eu canolfan yn Baku cyn eu gêm yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn.

Ac mae Williams yn credu y gall Cymru ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol eto ar ôl cymhwyso am ail Bencampwriaeth Ewropeaidd yn olynol.

‘Mwy o gryfder’

“Mae tipyn o’r garfan bresennol heb fod o gwmpas ers cyhyd ag yr oedden ni wedi bod,” meddai Williams.

“Ond mae’n debyg eu bod nhw’n fwy talentog – ac mae mwy o gryfder nawr.

“Roedden ni wastad yn gwybod y byddai 10 o’r 11 yn dechrau pe bydden nhw’n ffit. Mae mwy o benbleth y tro hwn – sy’n beth da, oherwydd mae cymaint mwy o chwaraewyr da ym mhob safle.

“Yr hyn sydd gan y ddau dîm yn gyffredin yw eu bod yn chwarae’r ffordd y byddech yn disgwyl i Gymru ei wneud – yn ddewr.

“Maen nhw wir yn mynd ar ôl y gêm ac yn gwrthod cymryd cam yn ôl. Maen nhw bob amser ar y droed flaen.”

Roedd Williams yn arweinydd ysbrydoledig yn Euro 2016, yn bresenoldeb aruthrol yn yr amddiffyn ac yn sgoriwr annisgwyl yn y fuddugoliaeth gofiadwy dros Wlad Belg.

Aeth cyn-amddiffynnwr Abertawe ac Everton ymlaen i ennill 86 o gapiau cyn ymddeol ym mis Ionawr.

Gareth Bale

Gareth Bale yw’r capten bellach ac mae Williams yn credu y bydd y blaenwr byd-enwog yn elwa yn Euro 2020 o beidio â chwarae gormodedd o gemau yn ystod ei gyfnod ar fenthyg yn Tottenham.

“Mae wedi bod yn dymor hir i bawb,” meddai Williams.

“Dyw Gareth ddim wedi chwarae bob wythnos felly gobeithio ei fod e’n ffres, ac mae e wastad yn frwdfrydig am chwarae dros Gymru.

“Y peth da yw fod ganddo ambell beth o’i gwmpas nawr … Aaron Ramsey, Dan James, Jonny Williams, Kieffer Moore, yn ogystal ag Ethan Ampadu yng nghanol cae neu’r amddiffyn.

“Dyw e ddim yr un Gareth Bale ag yr oedd – mae hynny’n dod gydag oedran – ond rydyn ni wedi gweld ei fod yn gallu gwneud pethau ar unrhyw adeg i benderfynu gemau.

“Mae wedi cofleidio arweinyddiaeth drwy fod yn gapten – a’i waith e’ fydd arwain y chwaraewyr hynny.

“Ond maen nhw wedi dangos eu bod nhw’n gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. Mae’n gymysgedd da iawn rhwng y chwaraewyr hŷn a’r rhai iau.”

Mae Cymru’n aros yn Baku ar ôl eu gêm agoriadol i chwarae Twrci, cyn cwrdd â ffefrynnau Grŵp A, yr Eidal, yn Rhufain.

“Pethau rhyfedd yn gallu digwydd”

Mae Williams yn deall pa mor bwysig yw’r gêm gyntaf ar ôl i Gymru ddechrau gyda buddugoliaeth – 2-1 dros Slofacia – bum mlynedd yn ôl.

Dywedodd: “Mae’n bwysig adeiladu rhywfaint o fomentwm fel y gwnaethon ni yn Ffrainc. Dyna’r peth allweddol, ceisio ennill y gêm gyntaf honno.

“Ond mae’n dwrnament – ac mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd.

“Bydd rhai gwledydd llai yn mynd ymlaen yn y gystadleuaeth, felly gobeithio ein bod ni’n un ohonyn nhw a’n bod ni’n cael rhediad da iawn.”