Fe fydd bod yn ffefrynnau i orffen ar waelod Grŵp A yn yr Ewros “yn berffaith” i dîm pêl-droed Cymru, yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Morrell.

Byddan nhw’n herio’r Swistir i agor eu hymgyrch yn Baku ddydd Sadwrn (Mehefin 12) cyn wynebu Twrci ddydd Mercher (Mehefin 16), a gorffen wedyn yn erbyn yr Eidal ar eu tomen eu hunain yn Rhufain ddydd Sul (Mehefin 20).

Yr un oedd yr hanes bum mlynedd yn ôl i garfan Chris Coleman, a lwyddodd i drechu’r ods a chyrraedd y rownd gyn-derfynol yn ystod haf euraid yn Ffrainc.

“Dw i’n credu ei bod hi’n berffaith fod pobol yn dweud hynny, a bod yn onest,” meddai Morrell, sy’n gymwys i chwarae dros Gymru o ganlyniad i deulu ei fam.

“Mae’n siŵr fod y bois wedi cael rhywbeth tebyg yn 2016

“Wrth gwrs, dw i ddim yn dweud y byddwn ni’n gwneud yr un fath ond dw i ddim yn meddwl bod pwysau enfawr arnon ni, fydd yn berffaith mewn gwirionedd.”

Mae ganddyn nhw gêm ddigon anodd yn erbyn y Swistir i ddechrau’r ymgyrch y tro hwn, ond bydd hi “fel unrhyw gêm arall”, meddai.

“Byddwn ni’n mynd ati ar gyfer y gêm hon fel rydyn ni wedi mynd ati ar gyfer pob gêm arall, gydag agwedd bositif.

“Fel dywedais i, rydyn ni’n edrych ymlaen at yr her o dair gêm anodd iawn.”

Anwybyddu’r holl ddarogan

Yn ôl Morrell, bydd rhaid i Gymru anwybyddu’r holl ddarogan am eu canlyniadau er mwyn llwyddo yn y gystadleuaeth.

“Dw i’n meddwl mai dyna wnaethon nhw yn 2016 hefyd,” meddai.

“Pe baen ni’n eistedd ac yn gwrando ar bawb yn darogan, dydy hynny ddim yn mynd i’n helpu ni.

“Rydyn ni’n sicr yn barod i brofi pobol yn anghywir ond hefyd, dw i’n credu mai’r ysgogiad mwyaf yw gwneud yn dda ar gyfer y tair miliwn o bobol gartref. Dyna’r peth pwysicaf, dw i’n meddwl.

“Dw i ddim yn meddwl y byddwn ni’n talu sylw i ods y bwcis na dim byd felly, jyst ei gwneud hi er ein mwyn ni ein hunain, ein teuluoedd a phobol Cymru.”