Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar y prif weinidog Mark Drakeford i gomisiynu “ymchwiliad cyhoeddus annibynnol” i’r pandemig Covid-19 yng Nghymru.
Dywed fod “dyletswydd” ar Lywodraeth Cymru i roi atebion i deuluoedd y bobol fu farw gyda Covid-19.
“Drwy gydol yr argyfwng coronafeirws, mae’r prif weinidog wedi mynnu ein bod yn gwneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru ac nad yw cyhoeddiadau a phenderfyniadau a wneir yn Lloegr yn berthnasol i ni,” meddai.
“Cafodd penderfyniadau a wnaed yng Nghymru effaith ar fywydau yma yng Nghymru, a dylid eu rhoi o dan ficrosgop ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yma yng Nghymru, a heb y perygl o fod yn droednodyn.
“Mae Mark Drakeford yn mynnu cael ei drin fel partner cyfreithlon a chyfartal yn rheolaidd, ond yn anffodus dydy hynny ddim fel pe bai’n berthnasol o ran craffu ac atebolrwydd penderfyniadau ei lywodraeth.
“Yn drasig, mae 7,860 o bobl wedi marw yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf, ac mae’n ddyletswydd arnom i’w teuluoedd sicrhau bod ganddyn nhw atebion, a bod Cymru wedi paratoi’n llawn ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.
“Byddai ymchwiliad sy’n benodol i Gymru yn sicrhau ein bod yn dysgu gwersi hanfodol wrth symud ymlaen – da a drwg – a dim ond Prif Weinidog Cymru all ei gomisiynu.
“Dylai wneud hynny ar unwaith.”
Cymru i fod yn rhan o ymchwiliad y Deyrnas Unedig
Fodd bynnag, dydy Mark Drakeford ddim yn bwriadu comisiynu ymchwiliad o’r fath.
“Fydda i ddim yn gwneud hynny oherwydd fy mod i wedi cytuno gyda Llywodraeth San Steffan ein bod yn mynd i fod yn rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus mae’r Prif Weinidog wedi’i gyhoeddi,” meddai wrth ymateb.
“Cyn belled ag yr ydw i’n gwybod, dyma’r unig ymchwiliad sydd wedi cael ei gynnig yn y Deyrnas Unedig.
“Dw i wedi cael cyfle i drafod hynny gydag aelodau blaenllaw o’r llywodraeth yn San Steffan.
“Dw i wedi gwneud y pwynt fy mod yn credu y bydd angen penodau penodol yn yr ymchwiliad sy’n mynd i’r afael â’r profiad yma yng Nghymru.”