Mae dyn wedi rhoi slap i Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wrth iddo fe ymweld â thref fach yn ne-ddwyrain y wlad.
Mae fideo o’r digwyddiad yn cael ei rhannu ar y we.
Fe ddigwyddodd wrth iddo fe gyfarfod â’r cyhoedd oedd yn aros amdano y tu ôl i fariau yn nhref Tain-l’Hermitage ar ôl iddo fe ymweld ag ysgol uwchradd sy’n hyfforddi disgyblion i weithio mewn gwestai a bwytai.
Yn y fideo, mae modd gweld swyddogion diogelwch yr arlywydd yn gwthio’r dyn i ffwrdd cyn i Macron adael y safle.
Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc, mae dau o bobol yn y ddalfa, ond dydy’r arlywydd ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.
Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r digwyddiad mae Marine Le Pen, arweinydd y blaid asgell dde Front National.
Er gwaetha’r digwyddiad, mae’r arlywydd yn bwriadu parhau â’i ‘Tour de France’, flwyddyn cyn yr etholiad arlywyddol nesaf.