Mae Hybu Cig Cymru wedi cadarnhau bod gwaith ar draws y diwydiant amaeth a bwyd i ymestyn oes silff Cig Oen Cymru yn “talu ar ei ganfed”.

Daeth y gwaith i’r casgliad bod ymestyn oes silff yn hollbwysig i wneud Cig Oen Cymru yn fwy cystadleuol yn siopau gwledydd Prydain, ac er mwyn denu cwsmeriaid newydd mewn gwledydd tramor.

Yn ystod 2020-21, er gwaethaf y pandemig, bu gwelliant o 10% yn ei oes silff gan gyrraedd cyfartaledd o 36 diwrnod a hanner.

Daw hyn ar ben gwelliant o 16% yn 2019-20.

Cyn hynny, roedd oes silff Cig Oen Cymru’n amrywio o 21 i 28 diwrnod.

Wrth arwain y diwydiant tuag at y gwelliannau hyn, mae Hybu Cig Cymru wedi bod yn gweithio ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi, gan gynnwys cydweithio â phroseswyr i gynnal rhith-weithdai i drafod arferion gorau gyda ffermwyr.

“Allweddol”

“Am ei bod yn bwysicach nag erioed i allforio i farchnadoedd y tu allan i Ewrop, mae gwella oes silff yn allweddol,” meddai John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Rhyngberthynas Hybu Cig Cymru.

“Mae’r oes silff yn amrywio rhywfaint rhwng y gwahanol doriadau. Erbyn hyn mae gan rai cynhyrchion oes silff sy’n sylweddol hirach na mis, ac mae hynny’n help mawr i ddenu cwsmeriaid newydd mewn gwledydd tramor.

“Ond mae ymestyn oes silff hefyd yn help o ran gallu cael cyflenwad cyson trwy gydol y flwyddyn yn y siopau ym Mhrydain; felly mae’n braf gweld y gwelliant yn parhau.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cannoedd o ffermwyr a myfyrwyr amaeth wedi mynychu ein cyrsiau am ddim sy’n dangos sut i gyflwyno da byw i’w lladd. Â chymorth proseswyr, rydym wedi gallu parhau â’r gwaith hwn yn rhithiol eleni.

“Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan bwysig hefyd o’n prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.”