Mae arweinydd y DUP wedi cyhoeddi mai Paul Givan sydd yn cael enwebiad y blaid i fod yn Brif Weinidog newydd Gogledd Iwerddon, gan olynu Arlene Foster.

Fe wnaeth Edwin Poots ddatgelu ei dîm newydd yn ystod cyfres o gyhoeddiadau yn Stormont heddiw, a bydd y gweinidogion yn dechrau eu swyddi newydd ddydd Llun (Mehefin 14).

Wrth ddatgelu mai Paul Givan, aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon dros Ddyffryn Lagan, fydd yn ymgymryd â rôl y Prif Weinidog, fe wnaeth Edwin Poots ddiolch i Arlene Foster am ei “gwaith gwych”.

“Mae yna gyfrifoldeb enfawr yn dod gyda’r safle hon, yn enwedig wrth wasanaethu pobol Gogledd Iwerddon,” meddai.

Roedd Arlene Foster wedi awgrymu y byddai’n camu o’r neilltu pan fyddai Edwin Poots yn enwi ei dîm gweinidogol newydd.

Er hynny, dywedodd Edwin Poots y byddai Arlene Foster yn aros fel Prif Weinidog er mwyn arwain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Wyddeleg yn ei hetholaeth, Fermanagh, ddydd Gwener (Mehefin 11).

Gweinidogion

Fel rhan o’r tîm newydd, bydd Gary Middleton yn dod Is-Weinidog, a Paul Frew yn dod yn Weinidog Economi Gogledd Iwerddon.

Michelle McIlveen fydd y Gweinidog Addysg newydd, gan gymryd lle Peter Weir.

Yn yr wythnos ddiwethaf, mae nifer o weinidogion y DUP wedi ymddiswyddo, gan gynnwys yr aelod dros Bann Uchaf.

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, cyfeiriodd Roberta McNally at yr hyn a welodd yng ngyfarfod gweithredu’r blaid er mwyn cadarnhau Edwin Poots fel arweinydd y DUP fis diwethaf.

“O fod yno fy hun, fe wnes i weld aelodau uchel yn y blaid yn dweud wrth bobol i roi eu dwylo i lawr er mwyn caniatáu i’r bleidlais fod yn agored,” meddai.

“Roedd hi’n amlwg fod y rheiny ohonom ni a roddodd ein dwylo i fyny yn cael ein nodi.

“Roedd traheustra rhai aelodau uwch yn y cyfarfod yn syfrdanol.

“Yn bersonol, dw i wedi mwynhau fy amser yn y DUP nes rŵan, ac roedd yn fraint mawr cael fy ethol i’r adran weithredu.”