Mae gwasanaeth darparu cynnwys rhyngrwyd blaenllaw yn ymchwilio i broblem ar ei blatfform a allai fod wedi achosi problemau byd-eang ar y rhyngrwyd ac wedi cymryd dwsinau o wefannau mawr i lawr dros dro.

Mae cwmni Fastly o’r Unol Daleithiau, sy’n rhwydwaith darparu cynnwys (CDN) sy’n helpu gwefannau i gyflymu amseroedd llwytho a chyflwyno eu cynnwys i ddefnyddwyr, wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i fater a gafodd “effaith bosibl ar berfformiad gyda’n gwasanaethau CDN”.

Roedd gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymhlith y gwefannau a gafodd eu heffeithio, yn ogystal â’r Guardian, Financial Times, Independent a’r New York Times – oedd hefyd i lawr.

Roedd y neges “Gwall 503 Gwasanaeth Ddim ar gael” yn ymddangos i unrhyw un oedd yn ceisio cael mynediad i’r wefan gov.uk.

Dywedodd The Guardian ar Twitter bod eu gwasanaethau “yn cael eu heffeithio gan broblem ehangach ar y rhyngrwyd ar hyn o bryd a byddant yn ôl cyn gynted â phosibl.”

Mae Fastly, sydd wedi cael eu riportio fel ffynhonnell y broblem, wedi diweddaru eu tudalen statws gwasanaeth, gan ddweud bod y “mater wedi’i nodi ac mae ymateb yn cael ei weithredu.”

Roedd nifer o’r gwefannau a gafodd eu heffeithio wedi dechrau cadarnhau’n gynharach fod y mater wedi’i gysylltu â Fastly.