Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth wedi derbyn £605,365 o gyllid ychwanegol ar ôl cais llwyddiannus i ail rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Nod y Gronfa, sy’n becyn achub ac adfer i sefydliadau a chyrff celfyddydol yng Nghymru, yw helpu’r sector celfyddydol i oroesi’r pandemig ac i aros yn fywiog a chynaliadwy.

Cafodd enwau’r sefydliadau fu’n llwyddiannus yn eu ceisiadau eu cyhoeddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ddoe (dydd Llun, Mehefin 7), ac fe wnaeth 127 o sefydliadau dderbyn eu siâr o £8.8m.

Roedd 94% o’r sefydliadau a wnaeth geisiadau am y gronfa’n llwyddiannus, meddai Cyngor Celfyddydau Cymru, a oedd yn rheoli elfen o’r gronfa.

Yn ôl amcangyfrifon, gallai’r arian ddiogelu 1,800 o swyddi.

“Adennill bwrlwm diwylliannol”

“Rydym mor falch ac mor ddiolchgar bod Cyngor y Celfyddydau yn cydnabod pwysigrwydd Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth fel canolbwynt i’r celfyddydau yn y Canolbarth a’r Gorllewin, ac yr ymddiriedir ynom i arwain y ffordd wrth i’r sector diwylliannol a’r celfyddydau godi drachefn yn sgil argyfwng COVID-19,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i adennill y bwrlwm diwylliannol yng Nghanolfan y Celfyddydau ar ôl y pandemig byd-eang. Rydym yn aros yn eiddgar am gael croesawu pobl yn ôl pan rydyn ni’n ail-agor yn ddiweddarach y mis hwn, ac wedi bod wrthi’n llunio rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn denu ystod eang o gynulleidfaoedd.”

‘Gwytnwch a chreadigrwydd’

Mae’r Galeri yng Nghaernarfon, Pontio ym Mangor, Canolfan y Mileniwm, Chapter a’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi derbyn arian o’r gronfa.

“Bydd y sector yn goroesi’r pandemig; roedd gwytnwch a chreadigrwydd ein hartistiaid a’n sefydliadau’n amlwg dros y cyfnod,” meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Ond mae angen cymorth ariannol arnynt oherwydd iddynt golli cymaint o incwm ac er mwyn ailadeiladu eu cynulleidfa.

“Roedd y Gronfa’n rhan bwysig o’r broses a byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraethau Cymru a Llywodraeth Prydain i ddosbarthu arian i’r sector ffynnu eto.”

‘Rhan bwysig’ wrth adfywio

“Mae gan y sector ran bwysig i’w chwarae wrth adfywio cymdeithas ac economi Cymru,” meddai Dawn Bowden AoS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

“Wrth gwrs rydym ni’n gobeithio y gallwn groesawu cynulleidfaoedd yn ôl yn raddol ac yn ddiogel i’n lleoliadau.

“Roedd creadigrwydd ein sefydliadau celfyddydol wrth addasu i’r pandemig yn drawiadol.

“Ond gwyddom hefyd fod angen ein cefnogaeth arnynt o hyd dros y misoedd nesaf ac y bydd y Gronfa’n rhoi cymorth hanfodol i gwmnïau.”