Yn dilyn cadarnhad bod achosion o’r amrywiolyn Delta ym Mhowys, mae penaethiaid iechyd y sir yn galw o’r newydd ar i breswylwyr fynd am brawf os oes ganddyn nhw symptomau.

Yn ogystal, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog pobol i gael eu brechu.

Mae’r bwrdd iechyd yn atgoffa pobol i hunanynysu os oes ganddyn nhw symptomau, a chydweithio â’r gwasanaeth Profi ac Olrhain os ydyn nhw’n profi’n bositif.

Profion

Mae posib i bobol heb symptomau gasglu profion llif unffordd o Aberhonddu, Llanfair-ym-muallt, Crughywel, Y Gelli Gandryll, Llandrindod, Llanidloes, Machynlleth, Y Drenewydd, ac Ystradgynlais. Mae’r rhain ar gael i unrhyw un sy’n gallu gweithio gartref, gwirfoddolwyr, a gofalwyr di-dâl.

Gall pobol ym Mhowys archebu profion llif unffordd drwy’r post hefyd.

Mae profion PCR ar gael i bobol sydd â symptomau yn Aberhonddu, Machynlleth, Y Drenewydd, Y Trallwng ac Ystradgynlais drwy gydol mis Mehefin.

Trwy gydol mis Mehefin mae gan y sir ganolfan brofi cerdded i mewn ar gyfer pobol heb symptomau yn y Drenewydd hefyd.

“Mae hyn yn agored i bawb, mae wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddydd Park Street yn y Drenewydd ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 6pm,” meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

‘Dilyn rheolau syml’

“Mae coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd, ac mae amrywiadau newydd yn cylchredeg,” meddai Stuart Bourne wedyn.

“Mae achosion o’r amrywiad Delta bellach wedi’u cadarnhau ym Mhowys. Ymddangosodd yr amrywiad Delta gyntaf mewn rhannau o ogledd Lloegr, gan gynnwys Bedford, Bolton a Blackburn ac mae wedi lledaenu’n gyflym ers hynny.

“Nid oes tystiolaeth eto ei fod yn fwy difrifol, ond mae’n fwy trosglwyddadwy.

“Mae hyn yn golygu y dylai pawb ddilyn rheolau syml Dwylo – Wyneb – Gofod, a dylai pawb sy’n gymwys gwblhau’r cwrs brechu dau ddos llawn.”