Mae llu o enwogion gan gynnwys David Beckham, Olivia Colman a Billie Eilish wedi ysgrifennu at arweinwyr y byd yn galw am rannu brechlynnau coronafeirws dros ben gyda gwledydd tlotach.

Mewn llythyr agored, a gafodd ei gyhoeddi cyn uwchgynhadledd y G7 ddydd Gwener (Mehefin 11), dywedodd llysgenhadon Unicef fod y cyfarfod yn “gyfle hanfodol” i gymryd camau.

Rhybuddiodd Unicef y byddai’r byd, heb sicrhau cyflenwadau “teg” o frechlynnau yn rhyngwladol, yn parhau i fod mewn perygl o amrywiolion o’r feirws yn y dyfodol.

“Mae’r byd wedi treulio blwyddyn a hanner yn brwydro yn erbyn pandemig Covid-19, ond mae’r feirws yn dal i ledaenu mewn llawer o wledydd ac yn cynhyrchu amrywiolion newydd gyda’r potensial i’n rhoi ni i gyd yn ôl lle dechreuon ni,” meddai’r llythyr.

“Mae hyn yn golygu cau mwy o ysgolion, mwy o aflonyddwch gofal iechyd a mwy o broblemau economaidd – gan fygwth dyfodol teuluoedd a phlant ym mhobman.

“Ni fydd y pandemig drosodd yn unrhyw le nes ei fod drosodd ym mhobman, ac mae hynny’n golygu cael brechlynnau i bob gwlad, mor gyflym a theg â phosibl.

“Mae Uwchgynhadledd G7 y penwythnos hwn yn gyfle hanfodol i chi gytuno ar y camau a fydd yn sicrhau brechlynnau lle mae eu hangen fwyaf, yn gyflym.”

Prinder brechlynnau

Rhybuddiodd y llythyr hefyd fod Covax, y fenter fyd-eang sy’n cefnogi gwledydd tlotach i gael mynediad i frechlynnau, yn wynebu diffyg o 190 miliwn dos.

Mae Unicef wedi cynnig y dylai gwledydd y G7 roi 20% o’u brechlynnau rhwng mis Mehefin a mis Awst er mwyn helpu i fynd i’r afael â phrinder dros dro.

“Fel llysgennad ewyllys da Unicef rwy’n credu mewn budd hanfodol brechiadau,” meddai cyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr, David Beckham.

“Fydd y pandemig ddim drosodd nes ei fod drosodd ym mhobman, felly mae’n hanfodol bod pob cymuned ledled y byd yn cael mynediad teg i frechlynnau Covid-19 ar frys.”

‘Does dim angen dewis’

“Does dim angen i wledydd ddewis rhwng ymladd y clefyd gartref neu ei ymladd dramor,” meddai Henrietta Fore, cyfarwyddwr gweithredol Unicef.

“Gallwn, ac mae’n rhaid i ni, wneud y ddau ar yr un pryd – ac ar unwaith.

“Wedi’r cyfan, dydy’r clefyd ddim yn parchu ffiniau ar fap.

“Ddylai ein brwydr i fynd i’r afael â’r feirws, a’i amrywiolion, ddim ychwaith.”