Mae ffrae yn corddi yng Nghatalwnia ar ôl i lys ddyfarnu y gall darpar-fyfyrwyr prifysgol ddewis ym mha iaith fyddan nhw’n sefyll eu harholiadau.

Mae’r llys wedi dyfarnu yn erbyn y defnydd o Gatalaneg fel prif iaith arholiadau, gan ddweud y gall myfyrwyr ddewis eu sefyll yn Sbaeneg neu yn Aranese pe bai’n well ganddyn nhw.

Cyn hyn, fe fu’r awdurdodau’n dosbarthu’r papurau yn yr iaith Gatalaneg yn ddiofyn, ac roedd gan fyfyrwyr yr hawl i ofyn am bapur Sbaeneg neu Aranese, sef ieithoedd swyddogol Catalwnia.

Ond yn ôl y llys, mae hyn yn tarfu ar hawl myfyrwyr i ddewis iaith eu harholiadau ac y dylen nhw gael yr hawl i ddewis iaith eu papurau unigol.

Ond mae Adran Ymchwil a Phrifysgolion Catalwnia yn cyhuddo’r llys o ymyrryd yn ddiangen, ac mae’n ymddangos y byddan nhw’n parhau i ddosbarthu papurau yn yr iaith Gatalaneg oni bai bod myfyrwyr yn dymuno fel arall.

Ym Mhrifysgol Barcelona, mae’n ymddangos bod y papurau ar gael ym mhob un o’r ieithoedd “fel bob blwyddyn”.

Mae cyfyngiadau Covid-19 ar waith wrth i’r myfyrwyr sefyll eu harholiadau, ac mae hyn yn golygu cadw pellter o 1.5m oddi wrth ei gilydd, golchi eu dwylo â hylif cyn mynd i mewn i’r ystafell arholi a gwisgo mwgwd trwy gydol yr arholiadau.