Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes yn ei 70au gael ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrefynwy neithiwr (nos Lun, Mehefin 7).

Cafodd y ddynes ei tharo gan seiclwr am oddeutu 9.55yh.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ond fe adawodd y seiclwr leoliad y gwrthdrawiad.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 20au, ac roedd e’n gwisgo top tywyll.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth a deunydd dashcam gan y cyhoedd, ac yn gofyn i’r seiclwr “wneud y peth iawn” ac i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.