Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod y sefyllfa lle nad yw’n bosib gwerthu selsig wedi’u gwneud yng ngwledydd Prydain yng Ngogledd Iwerddon yn “boncyrs”.
Daw sylwadau George Eustice ynghanol ffraeo parhaus dros drefniadau ar y ffin yn dilyn Brexit.
Dywedodd George Eustice fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn “araf yn cysylltu” gydag ymdrechion i ddatrys trafferthion cyn i’r cyfnod gras, sy’n caniatáu i siopau yng Ngogledd Iwerddon barhau i werthu cigoedd oer, rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, ddod i ben.
Mae Brwsel wedi rhybuddio eu bod nhw’n barod i weithredu’n “gadarn a phenderfynol” er mwyn sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn cadw at yr ymrwymiadau ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.
Rheolau “mympwyol”
Dywedodd George Eustice heddiw (8 Mehefin), “nad oes ganddo syniad” pam fod yr Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno rheolau “mympwyol” ar symudiad cigoedd oer.
“Dw i’n amau ei fod yn gysylltiedig â rhyw fath o ganfyddiad eu bod nhw methu ymddiried mewn unrhyw wlad arall, heblaw am wledydd yr Undeb Ewropeaidd, i wneud selsig,” meddai wrth LBC.
“Dw i’n meddwl fod hynny’n nonsens. Dw i’n meddwl fod gennym ni ddiwydiant selsig da iawn yn y wlad hon, ac mae gennym ni’r safonau hylendid uchaf yn y byd.”
Mynnodd “nad oes problem gyda’n selsig, na’r chicken nuggets chwaith”.
“Rhaid gweithredu’r” cytundeb
Canolbwynt y ffrae yw bod yr Undeb Ewropeaidd yn ofni y gallai nwyddau o Ogledd Iwerddon gael eu gwerthu ar y farchnad sengl.
“Rydyn ni’n rhybuddio eich bod chi wedi arwyddo cytundeb, mae’n rhaid i chi ei weithredu. Fel arall, mae yna fesurau y gallwn ni eu cymryd a fydd yn gwarchod ein marchnad sengl,” meddai Nathalie Loiseau, Aelod o’r Senedd Ewropeaidd wrth raglen Today.
Fe wnaeth Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, ddweud mewn erthygl i’r Daily Telegraph na fyddai’r Undeb Ewropeaidd “yn swil” wrth weithredu i sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn cadw at ei hymrwymiadau.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi gwneud penderfyniad unochrog i ymestyn y cyfnodau gras yn y Protocol ar gyfer nwyddau a pharseli archfarchnadoedd yn barod, gan wylltio Brwsel.
Dywedodd Maros Sefcovic yr wythnos ddiwethaf na fyddai’r comisiwn yn goddef rhagor o fethiannau gan Lundain i ufuddhau.
Cyfrifoldeb ar y ddwy ochr
Daw’r ffrae wrth i adroddiadau awgrymu y bydd Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn defnyddio Uwchgynhadledd yr G7 yr wythnos hon i ddangos i Boris Johnson pa mor bwysig yw cadw at y Protocol.
Cyn yr Uwchgynhadledd yng Nghernyw, fe wnaeth Boris Johnson drafod y mater ar y ffôn gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.
Wrth sôn am yr hyn y mae’n disgwyl y byddai Joe Biden yn ei gwneud o’r sefyllfa, dywedodd George Eustice: “Dw i’n amau y byddai unrhyw weinyddiaeth yn yr Unol Daleithiau wedi synnu pe dywedech na ellir gwerthu selsig o Texas yng Nghaliffornia, fod yna waharddiad, er enghraifft – fydden nhw wir ddim yn deall sut fod posib ystyried hynny.”
Mae Downing Street wedi dweud fod y Prif Weinidog wedi pwysleisio fod gan “yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i ddod o hyd i ddatrysiadau er mwyn i’r afael â’r materion efo’r Protocol”.