Mae gwerthwyr cyffuriau o’r Deyrnas Unedig ymhlith nifer o droseddwyr sydd wedi cael eu twyllo i ddefnyddio gwasanaeth negeseuon wedi’i amgryptio gan yr FBI.
Roedd yr ymgyrch rhyngwladol yn cynnwys system o’r enw Anom a oedd yn cael ei monitro’n gyfrinachol.
Cafodd awdurdodau yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Ewrop, Awstralia a Seland Newydd fynediad i filiynau o negeseuon am werthu cyffuriau, gwyngalchu arian a chynllunio llofruddiaethau.
Mae tua 800 o droseddwyr wedi cael eu harestio mewn 16 o wledydd, yn ôl asiantaeth Europol.
Sefydlwyd Anom, syniad yr FBI a heddlu Awstralia, yn 2019, a thyfodd i wasanaethu 12,000 o ddyfeisiau wedi’u hamgryptio sy’n gysylltiedig â mwy na 300 o gangiau troseddol sy’n gweithredu mewn mwy na 100 o wledydd.
Dywedodd Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ei bod wedi cynnal “nifer o ymgyrchoedd” o ganlyniad i’r ymgyrch – sydd wedi’i alw’n Trojan Shield.
Dywedodd llefarydd: “Mae’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn falch o fod wedi bod yn bartner yn yr hyn a fu’n yngyrch arloesol a chymhleth i dargedu troseddwyr sy’n gweithredu’n fyd-eang a defnyddio llwyfannau cyfathrebu wedi’u hamgryptio.
“Fel rhan o hyn, mae’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol wedi cynnal sawl ymgyrch i dargedu grwpiau troseddu cyfundrefnol sy’n ymwneud â masnachu mewn cyffuriau a gwyngalchu arian.
“Mae’r gwaith hwn wedi dangos, yn wyneb y bygythiad sy’n esblygu’n gyflym gan droseddwyr sy’n manteisio ar ddatblygiadau mewn technoleg, fod yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol wedi ymrwymo i weithio ar draws ffiniau rhyngwladol i dargedu troseddwyr, ble bynnag y maent a sut bynnag y maent yn cyfathrebu.”
Nid yw’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol wedi datgelu rhagor o fanylion am yr ymgyrchoedd a gynhaliwyd na nifer y defnyddwyr Anom yn y Deyrnas Unedig.