Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn “ddi-fflach” ac yn “rhagweladwy” yn eu cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch.

Bydd y cynnig yn mynd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth, 15 Mehefin), yn dilyn ymgynghoriad ar y mater yn Ionawr a Chwefror.

Pe bai’r cynnig yn cael ei basio, bydd cyfle ffurfiol i wrthwynebu’r Hysbysiad Statudol i gau’r ysgol.

Os na fydd y Cyngor yn newid ei meddwl, gallai’r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan symud y plant i Ysgol Sarn Bach.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar aelodau’r Cabinet i wrthod y cynnig, a chynnig gobaith newydd i gymuned Abersoch fel rhan o agenda “Adfeddiannu Cymunedau”.

Gyda chapasiti o 32, mae wyth o blant yn mynychu’r ysgol yn llawn amser a dau ddisgybl meithrin ar hyn o bryd – sy’n golygu fod 76% o lefydd gweigion yn yr ysgol. Nid yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol i niferoedd disgyblion Ysgol Abersoch dros y blynyddoedd nesaf.

“Dull copy & paste

“Yn anffodus, mae’r cynnig gan y swyddogion i lynu at eu penderfyniad i gau Ysgol Abersoch yn gwbl ragweladwy, gan na fu hyder gan y gymuned leol y byddent byth yn newid unrhyw beth o ganlyniad i ymgynghoriad,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“A bod yn onest, talwn deyrnged i swyddogion am wneud astudiaeth eithaf manwl, ac am roi sylw arbennig i opsiynau amgen a godwyd gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill yn ystod yr ymgynghoriad, fel creu ffederasiwn o ysgolion cynradd y fro neu ffederasiwn cryf o’r ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd y penrhyn, neu hyd yn oed ysgol aml-safle.

“Awgrymwyd hefyd ddefnydd ychwanegol i rannau o’r adeilad tra’n cynnal ysgol, fel Canolfan Ddiwylliannol a chyfleusterau teuluol, a hefyd weithgarwch maes i fanteisio ar y safle wrth y traeth ac yng nghanol y pentre.

“Fodd bynnag, di-fflach iawn fu’r dadansoddiad terfynol o werth yr opsiynau creadigol hyn, a defnyddiwyd dull ‘copy & paste’ i’w gwrthod.”

“Dadansoddiad cul”

“Yn eu dadansoddiad cul, dywed y swyddogion nad yw’r un o’r cynigion amgen yn datrys problemau’r nifer bach o ddisgyblion a’r gost ganlynol y disgybl o ddarparu addysg,” ychwanega Ffred Ffransis.

“Derbyniwn fod y nifer yn arbennig o isel, yn bennaf oherwydd bod yn rhaid i blant ymadael â’r ysgol yn 8 oed ac oherwydd bod diffyg polisïau tai a chynllunio, a diffyg datblygu economaidd cytbwys wedi golygu mai ychydig o drigolion ifainc parhaol sydd yn y pentref.

“Nid yw’n deg fod y disgyblion a’u rhieni’n talu’r pris am y methiannau hyn mewn polisi cyhoeddus, a dylai’r Cyngor yn hytrach ddefnyddio safle ac adnodau pwrpasol yr ysgol fel rhan o agenda ‘Adfeddiannu’ i roi gobaith newydd i’r gymuned, yn hytrach na’u gwrthod.

“Mae cydweithrediad ag ysgolion eraill yn rhoi cyfleon amlwg i gynyddu niferoedd mewn dosbarthiadau, yn enwedig gan fod ysgol gyfagos yn orlawn.

“Gall llywodraethwyr Abersoch hefyd fod yn bartneriaid parod mewn prosiect i ehangu profiad addysgol holl ddisgyblion y fro trwy eu syniadau arloesol am ddatblygu ‘Ysgol Traeth a Natur’ ar safle Abersoch i wasanaethu pawb.

“Nid yw’n gwneud llawer o synnwyr fod ysgol yn cau ar ganol blwyddyn academaidd.

“Yn lle rhoi stamp o gymeradwyaeth ragweladwy ar y cynnig gwreiddiol i gau’r ysgol, gofynnwn i aelodau Cabinet y Cyngor ddefnyddio tymor yr hydref i drafod yn greadigol gyda llywodraethwyr a rhieni eu syniadau am ddyfodol yr ysgol a’r gymuned cyn penderfynu’n derfynol beth fydd tynged y disgyblion ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol a fydd yn cychwyn ym Medi 2022.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb i gyhuddiadau Cymdeithas yr Iaith.

“Nid ar chwarae bach”

“Rydw i’n llwyr werthfawrogi fod hyn yn gyfnod anodd ac mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ymgynghori ar ddyfodol unrhyw ysgol,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, wrth gyhoeddi y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried wythnos nesaf.

“Mae ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r holl opsiynau ddaeth gerbron ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu.

“Nid ar chwarae bach mae cyflwyno’r adroddiad yma, ond mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.

“Wedi gwerthuso’r holl opsiynau yn fanwl, ac ystyried y rhagamcanion y bydd niferoedd disgyblion yr ysgol yn parhau’n bryderus o isel am y blynyddoedd i ddod, mae’r argymhelliad y dylai Ysgol Abersoch gau ddiwedd 2021.

“Fel rhan o’r cynnig, byddai’r disgyblion yn cael cynnig mynychu Ysgol Sarn Bach sydd gerllaw o fis Ionawr 2022. Yn naturiol mae awydd clir wedi bod yn y pentref i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion eisoes yn mynychu o oed Cyfnod Allweddol 2.”

 

Arfbais y sir ar adeilad y cyngor

Ysgol Gynradd Abersoch: penderfyniad “siomedig iawn” yn ôl Cynghorydd Abersoch

Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid ymgynghoriad i gau Ysgol Abersoch