Mae plismon wedi derbyn cyfrifoldeb am ladd Sarah Everard yn llys yr Old Bailey bore ma (Mehefin 8).

Roedd y cyn-swyddog gyda Heddlu Llundain, Wayne Couzens, 48, wedi ymddangos yn y llys bore ma gan bledio’n euog i gipio a threisio Sarah Everard.

Clywodd y llys bod Wayne Couzens yn derbyn cyfrifoldeb am ladd Sarah Everard ond nid oedd yn rhaid iddo gyflwyno ple i gyhuddiad o’i llofruddio gan fod y llys yn aros am adroddiadau meddygol.

Fe ddiflannodd Sarah Everard, 33, wrth iddi gerdded adre o dy ffrind yn Clapham, de Llundain ar Fawrth 3.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn coedwig yn Ashford yng Nghaint ar Fawrth 10.

Roedd Wayne Couzens wedi ymddangos gerbron y llys drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.

Roedd wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gipio Sarah Everard ar Fawrth 3. Roedd hefyd wedi pledio’n euog i ail gyhuddiad o’i threisio rhwng Mawrth 2 a 10.

Mae disgwyl i wrandawiad pellach gerbron yr Arglwydd Ustus Fulford gael ei gynnal ar Orffennaf 9.