Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws sy’n cael eu cofnodi bob wythnos yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng o dan 100 am y tro cyntaf ers bron i naw mis.
Cafodd cyfanswm o 95 o farwolaethau eu cofnodi yn yr wythnos hyd at Fai 28 lle’r oedd Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif farwolaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dyma’r tro cyntaf i’r ffigwr fod o dan 100 ers yr wythnos hyd at Fedi 11 y llynedd. Dyma’r cyfanswm isaf hefyd ers yr wythnos hyd at Fedi 4.
Mae’r ffigwr yn adlewyrchu’r gostyngiad graddol mewn marwolaethau Covid ers mis Ionawr, gyda chyfuniad o’r cyfyngiadau a’r rhaglen frechu yn parhau i arwain at leihau’r lledaeniad o’r firws.
Fe fu tair marwolaeth yng Nghymru.
Cafodd 12 marwolaeth sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws ymhlith preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr eu cofnodi yn yr wythnos hyd at Fai 28 – y nifer isaf ers dechrau’r pandemig.
Mae Covid-19 wedi cael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth cyfanswm o 42,498 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr.