Bydd ymgyrchwyr yn y gogledd yn dod ynghyd ym Mhenmaenmawr yn Sir Conwy fory (9 Mehefin) er mwyn galw ar Uwchgynhadledd yr G7 i flaenoriaethu mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn ystod yr wythnos, mae 80 cymuned arfordirol ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn nigwyddiad Make The Wave, gan ddechrau yng ngogledd y Deyrnas Unedig ddoe, a gorffen yn y de ddydd Iau.

Bydd y gweithredu ar brom Penmaenmawr yn cynnwys straeon gan rai sydd wedi’u heffeithio gan lefel y môr yn codi, a bydd Edible Conwy, Extinction Rebellion Bangor, Conwy a Wrecsam, Dawnswyr Jerusalema, a Cyfeillion y Ddaear yn annerch y dorf.

Yn ogystal, bydd y Red Rebel Brigade yn ymddangos yn ystod yr ymgyrch, a bydd llythyrau gan blant i’r Ddaear yn cael eu darllen.

Bydd y gweithredwyr yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd gan godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch lefelau’r môr dros y byd, a’r effaith ar arfordiroedd Cymru.

Nod ymgyrch Make The Wave yw gyrru neges at yr Uwchgynhadledd a’r Prif Weinidog Boris Johnson fod pobol gyffredin yn mynnu gweithredu ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecoleg.

Mae’r gweithredu yn canolbwyntio ar lefelau’r môr yn codi, gyda’r grŵp yn dweud nad adeiladu amddiffynfeydd uwch yw’r ateb, ond mynd i’r afael ag allyriadau.

Lefelau’r môr

Daw’r gweithredu ar ôl i eigionegwyr ym Mhrifysgol Bangor rybuddio y gallai’r môr foddi’r A55, rheilffyrdd, a chymunedau arfordirol y gogledd erbyn diwedd y ganrif.

A hithau’n ddiwrnod Ddiwrnod Moroedd y Byd heddiw (8 Mehefin), mae Dr Yueng Dern Lenn a Dr Mattias Green wedi cyhoeddi llyfr, 30 Second Oceans, sy’n edrych ar ddyfodol moroedd y byd.

Yn ôl Dr Mattias Green, y rheilffordd rhwng Bangor a Llandudno fyddai’r cyntaf i gael ei effeithio, a byddai nifer o ardaloedd twristaidd yn y gogledd dan fygythiad, ynghyd ag ardal ddiwydiannol yng Nglannau Dyfrdwy.

Yr unig ffordd o atal hyn yw trwy adeiladu waliau drud er mwyn atal y môr, ynghyd â ffyrdd eraill i leihau’r effaith, meddai’r ysgolheigion.

Mae disgwyl i lefelau’r môr godi 50% dros yr 80 mlynedd nesaf, oni bai bod newid, gyda gogledd Ewrop ymysg yr ardal i gael ei heffeithio waethaf.

Pe bai’r môr yn codi gymaint â hynny, byddai nifer o draethau yn diflannu yn y gogledd, meddai Dr Green.

“Addewidion anwadal a thwyllodrus”

Bydd un o drigolion pentref Fairbourne, sy’n cael ei fygwth yn barod gan y môr, yn mynychu’r ymgyrch ym Mhenmaenmawr.

“Dw i’n teimlo’n gryf nad oes nesaf peth i ddim wedi’i wneud ynghylch y brys sydd ynghlwm â newid hinsawdd ers Cytundeb Paris,” meddai.

“Dw i wir yn credu fod yr addewidion yn anwadal a thwyllodrus.”

“Dw i’n cymryd rhan yn y protestiadau hyn oherwydd dw i eisiau i lywodraethau weithredu nawr gan fy mod i’n poeni’n ofnadwy am ddyfodol fy mhlant, fy wyrion ac wyresau, a chenedlaethau’r dyfodol,” meddai Francis, sy’n gwnselydd yn y gogledd.

“Dw i hefyd yn teimlo’n ddyledus i weithredu ar ran yr holl greaduriaid, planhigion, a phobol sydd gan ddim llais i brotestio.

“Maen nhw’n wynebu difodiant yn sgil yr argyfwng hinsawdd hwn. Rhaid gweithredu nawr!”

Mae ymgyrch Make The Wave yn rhan o gyfres ehangach o ddigwyddiadau sydd ynghlwm ag Uwchgynhadledd G7.