Mae nifer y meirw wedi gwrthdrawiad rhwng dau drên yn ne Pacistan wedi codi i 63 ar ôl i dimau achub dynnu 12 yn rhagor o gyrff o’r cerbydau, ddiwrnod wedi’r ddamwain.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar reilffordd yn Ghotki, rhanbarth yn ne talaith Sindh, ar ôl i drên cyflym daro trên arall oedd wedi dod oddi ar y cledrau funudau ynghynt, yn oriau man y bore ddydd Llun (Mehefin 7).
Roedd tua 1,100 o deithwyr ar y ddau drên a’r rhan fwyaf yn cysgu pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd y trên Millat Express yn teithio rhwng dinas Karachi i Sargodha yn nhalaith Punjab, pan ddaeth oddi ar y cledrau. Roedd nifer o’r cerbydau wedi troi drosodd ac wrth i deithwyr geisio dianc roedd trên arall, y Sir Syed Express, wedi taro i mewn i’r cerbydau.
Roedd timau achub wedi gweithio drwy’r dydd ddydd Llun a dros nos, gyda pheirianwyr a milwyr o safle milwrol gerllaw yn helpu gyda’r gwaith o achub teithwyr.
Cafodd mwy na 100 o deithwyr eu hanafu yn y ddamwain, meddai swyddogion.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd i’r trên gyntaf ddod oddi ar y cledrau.
Mae damweiniau trên yn gyffredin ym Mhacistan, oherwydd bod cyn lleied yn cael ei wario i gynnal a chadw’r hen gledrau a’r system signalau.