Mae dynes sydd wedi bod yn weithgar gyda Sefydliad y Merched ers dros hanner canrif wedi’i phenodi yn Gadeirydd Pwyllgor Ffederasiynau Cymru heddiw (8 Mehefin).

Daw Eirian Roberts o Ysbyty Ifan hefyd yn aelod ex-officio o Fwrdd Ymddiriedolwyr Ffederasiynau Cenedlaethol Sefydliad y Merched (FfCSyM) dros Gymru, Lloegr, a’r Ynysoedd am ddwy flynedd.

Mae Eirian Roberts yn dal i fyw ar y fferm lle cafodd ei geni yn Ysbyty Ifan, yn Nyffryn Conwy, ac mae hi wedi bod yn weithgar gyda Sefydliad y Merched y pentref ers dros 50 mlynedd.

Pan ymunodd â’r mudiad, roedd hi’n aelod brwdfrydig o’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol cyn dod yn Llywydd Sir yn 2004.

Wrth ymateb i’r rôl newydd, dywedodd ei fod yn “anrhydedd mawr”, a’i bod hi’n gobeithio “rhoi rhywbeth bach yn ôl” i’r mudiad.

Eirian Roberts

Ar ôl gweithio ar y fferm deuluol a bod yn ofalwraig i aelodau o’i theulu, dilynodd gwrs gradd allanol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio yn 1996.

Fel Cyfarwyddwr y fferm deuluol, mae hi’n rhedeg y fferm gyda’i gŵr Arwel, ac mae ganddi angerdd dros fywyd cefn gwlad.

Mae Sefydliad y Merched wedi bod yn rhan ganolog o fywyd Eirian Roberts, a dywedodd ei bod hi’n fraint bod yn Gadeirydd ac Ysgrifennydd y mudiad yn Ysbyty Ifan.

Bu’n Gadeirydd Ffederasiwn Clwyd Dinbych rhwng 2015 a 2018 hefyd, ac fel Llysgennad Coed a Newid Hinsawdd dywed ei bod hi wedi cefnogi a gwerthfawrogi’r ystod eang o ymgyrchoedd amgylcheddol sy’n cael eu harwain gan Sefydliad y Merched.

Dros y blynyddoedd, mae hi hefyd wedi bod ar nifer o bwyllgorau megis pwyllgorau Eisteddfodau Cenedlaethol, chwaraeon, materion cyhoeddus, a chrefft.

Bu’n rhedeg y clwb ieuenctid lleol am dros bum mlynedd ar hugain, a bu’n athrawes Ysgol Sul. Mae hi’n gyn-lywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Ysbyty Ifan ac Ysgol Gyfun Dyffryn Conwy.

Ynghyd â hynny, bu’n ymddiriedolwr Academi Sgiliau Glasdir, a Chadeirydd cylchgrawn CD misol i’r deillion, Y Gadwyn.

Ar hyn o bryd, mae hi’n glerc i ddau gyngor cymuned, a bu’n aelod o Dîm Prosiect Datblygu Gwledig Conwy yn y gorffennol.

“Anrhydedd”

“Gall gweithio gartref ar y fferm wledig fod yn broffesiwn unig iawn, ac mae bod yn rhan o’m cymuned leol a SyM yn golygu fy mod wedi gwneud ffrindiau gwych dros y blynyddoedd,” meddai Eirian Roberts.

“Edrychaf ymlaen at gwrdd â chymdeithion a ffrindiau newydd yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd Ffederasiynau Cymru.

“Mae cael fy enwebu’n Gadeirydd Ffederasiynau Cymru yn anrhydedd mawr i mi. Gobeithiaf roi rhywbeth bach yn ôl yn dilyn yr hyn mae SyM wedi rhoi i mi am y rhan fwyaf o fy mywyd.

“Mae SyM yn dal i fod yr un mor bwysig heddiw, ag yr oedd yn y blynyddoedd cynnar, pan oedd yn allweddol wrth ymgyrchu dros gydraddoldeb i bob menyw”.