Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgynghoriad teithio ar-lein i gael barn pobol am lwybrau teithio “llesol” yn y Sir.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi ble mae modd gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio yn y Sir.

Yn ôl y Cyngor, y bwriad yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio yn Sir y Fflint.

Bydd y rheiny nad ydynt yn teithio fel hyn yn cael eu hannog i ddechrau gwneud hynny trwy wneud gwelliannau i lwybrau presennol a chyflwyno llwybrau newydd i gysylltu â’r llwybrau cerdded a beicio presennol.

“Cyfle ardderchog”

“Mae ystod eang o fanteision ynghlwm wrth ddulliau teithio llesol, o helpu i ostwng allyriadau carbon a gwella safon yr aer i wella iechyd a lles, felly dyma gyfle ardderchog i drigolion Sir y Fflint ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Stryd.

“Er mwyn dylunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, hoffem gael barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl, yn enwedig y rheiny nad ydynt yn cerdded neu feicio ar hyn o bryd, a byddem yn annog pob preswylydd a busnes i gymryd rhan.

“Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siwr bod llwybrau sy’n cael eu creu ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i’r gymuned gyfan.

“Defnyddir eich adborth i helpu i greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir y Fflint o lwybrau cerdded a beicio.”