Mae holl arweinwyr cynghorau sir Plaid Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i weithredu ar ddatrysiadau ym maes tai i bobl leol ar fyrder.
Mewn llythyr at Mark Drakeford, dywed arweinwyr cynghorau sir Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin : “Mae’r bygythiad i hyfywedd cymunedau Cymraeg yn cynyddu’n sylweddol wrth i’r farchnad dai boethi a phrisiau gyrraedd y tu hwnt i bobl leol.
“Yn yr ardaloedd hyn, wrth gwrs, mae nifer helaeth yn cael eu prynu fel buddsoddiad ar gyfer gosod tymor byr neu fel ail dŷ.”
Dywedodd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’n hen bryd symud ar hyn i geisio dylanwadu ar y sefyllfa dai ledled Cymru.
“Mae Gwynedd wedi comisiynu darn helaeth o waith ymchwil llynedd, ac wedi dod a datrysiadau ymarferol i’r bwrdd ym maes trwyddedu a chynllunio.
“Rydym yn awyddus iawn fel pedair sir arfordirol gorllewin Cymru i gydweithio gyda’r Llywodraeth, ond mae hi nawr yn amser i’r Prif Weinidog weithredu.”
Mae’r arweinwyr yn pwyso ar y Llywodraeth Lafur i:
- Addasu Deddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ cyffredin yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd o dan reolau trethiant. Bydd perchnogion wedyn yn talu Treth y Cyngor ac nid Treth Busnes.
- Addasu polisïau cynllunio er mwyn creu dosbarth defnydd newydd ar gyfer llety gwyliau tymor byr.
- Cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, wedi ei reoli gan y cynghorau sir eu hunain, i sicrhau bod cydbwysedd o dai mewn cymunedau a thai ar gael i bobl leol eu prynu neu eu rhentu.
Galw am becyn “radical a chynhwysfawr”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Mark Drakeford i gyflwyno “pecyn o gynigion” i fynd i’r afael â’r argyfwng tai ond yn dweud y dylai’r pecyn hwnnw fod yn “radical a chynhwysfawr”.
“Rydyn ni’n galw am osod cap ar ganran yr ail gartrefi sydd mewn cymuned, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau; dyma’r math o fesurau radical a chynhwysfawr y bydd angen i’r Llywodraeth eu gweithredu fel rhan o’u pecyn os oes unrhyw obaith arnom i daclo’r argyfwng tai cenedlaethol,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.
“Mae’n amlwg felly na fydd mesurau bychain, lleol, yn ddigon i daclo’r argyfwng tai, gan eu bod yn anwybyddu’r cyd-destun economaidd ehangach a achosodd yr argyfwng cenedlaethol yn y lle cyntaf; mae hefyd yn wir fod yr holl argyfyngau tai lleol yn effeithio’i gilydd, sy’n golygu na allwn wirioneddol daclo’r argyfwng tai mewn unrhyw fan leol heb ei daclo’n genedlaethol.
“Mae’r argyfwng hefyd yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol ac economaidd sylfaenol, gyda phobl gyffredin ym mhob rhan o Gymru yn ei chael yn amhosib prynu tŷ yn eu cymuned, tra bo’ pobl gyfoethog yn prynu ail a thrydydd tŷ, gan chwyddo prisiau tai a dinistrio bywyd cymunedol – bydd angen i becyn o fesurau’r Llywodraeth adlewyrchu’r dimensiwn dosbarth cymdeithasol yma i’r argyfwng.”