Mae miloedd o bobol wedi rhuthro’n ôl o Bortiwgal cyn i reolau hunanynysu newydd ddod i rym.
Fe wnaeth 39 o awyrennau hedfan o Faes Awyr Faro yn yr Algarve i’r Deyrnas Unedig ddoe (7 Mehefin), bron i ddwbl y nifer arferol.
Cyrhaeddodd yr awyren olaf am 2:05yb heddiw (8 Mehefin), cyn i’r rheolau newydd ddod i rym am 4yb.
Bydd rhaid i deithwyr a gyrhaeddodd wedi 4yb hunanynysu adre am ddeng niwrnod yn sgil penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth Cymru, i symud Portiwgal i’r rhestr oren.
Roedd tocynnau ar gyfer nifer o deithiau wedi gwerthu i gyd, a phrisiau seddi’n ddrud.
Tra bod tocyn i hedfan o Faro i Bournemouth gyda Ryanair fory yn costio £17, roedd y seddi’n costio £285 ddoe.
Mae’n debyg fod rhai twristiaid wedi cael trafferth cael gafael ar brofion Covid-19 i’w cymryd cyn gadael Portiwgal hefyd, rywbeth sy’n ofynnol ar gyfer pobol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig.
“Diffygiol”
Bu gwrthwynebiad gan gwmnïau teithio a thwristiaid dydd Iau diwethaf (3 Mehefin) pan gafodd y newid ei gyhoeddi.
“Bydd cwsmeriaid sy’n trio gadael Portiwgal cyn i’r gofynion hunanynysu ddod i rym yn meddwl pam nad oedd mwy o rybudd, fel defnyddio’r rhestr gwylio werdd, er mwyn atal degau o filoedd rhag rhuthro i ddod adre,” meddai Rory Boland, golygydd cylchgrawn cwsmeriaid Which? Travel.
“Rhwng teithiau’n gwerthu allan, tocynnau drud, a thrafferthion i gael gafael ar brofion ar amser, mae’n amlwg fod agwedd y Llywodraeth tuag at reoli sefyllfa yn ymwneud â theithio sy’n newid yn ddiffygiol.
“Rhaid mynd i’r afael â’r materion hyn cyn adolygiad nesaf y rhestr werdd, er mwyn atal haf ofnadwy arall i deithwyr.”
“Gweithredu’n sydyn”
Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y sefyllfa ym Mhortiwgal yn golygu fod “angen gweithredu sydyn er mwyn gwarchod y cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r rhaglen frechu”.
Dywedodd fod y raddfa ar gyfer pobol yn profi’n bositif am Covid-19 yno bron wedi dyblu ers i’r rhestrau teithio gael eu ffurfio fis yn ôl.
Yn ôl yr Adran, mae 68 achos o amrywiolyn Delta wedi’u cadarnhau ym Mhortiwgal, ac mae ystadegau Profi ac Olrhain yn dangos fod 200 o bobol wedi cael eu profi wrth ddychwelyd o Bortiwgal rhwng 6 Mai ac 19 Mai.