Fe fydd Boris Johnson yn dod dan bwysau i wyrdroi penderfyniad i dorri £4biliwn o gyllideb cymorth dramor Pryder yn dilyn gwrthwynebiad ymhlith rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Mae ASau wedi sicrhau dadl frys yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 8) pan mae disgwyl i Geidwadwyr – gan gynnwys y cyn-brif weinidog Theresa May – roi pwysau ar Boris Johnson cyn uwch-gynhadledd yr G7 yng Nghernyw yr wythnos hon.

Roedd llefarydd Tŷ’r Cyffredin Syr Lindsay Hoyle wedi dweud ei fod yn disgwyl i weinidogion roi’r cyfle i ASau gynnal pleidlais ar y penderfyniad i roi’r gorau i’r ymrwymiad o roi 0.7% o incwm cenedlaethol y wlad fel cymorth dramor.

Ni fyddai’r Llywodraeth yn gorfod rhwymo i unrhyw bleidlais ar ôl dydd Mawrth a byddai’n symbolaidd yn unig.

“Miloedd o farwolaethau”

Ond dywedodd arweinydd y gwrthryfelwyr, a chyn-ysgrifennydd datblygiad rhyngwladol, Andrew Mitchell, petai pleidlais wedi bod ar y gwelliant ddydd Llun, byddai’r Llywodraeth wedi colli o hyd at 20 o bleidleisiau.

“Yn ystod wythnos cadeiryddiaeth Prydain ar y G7, bydd methiant y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ddiamheuol yn arwain at gannoedd ar filoedd o farwolaethau y gellir fod wedi’u hosgoi,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod ei gweithredoedd yn unol â Deddf Datblygu Rhyngwladol 2015 a oedd yn rhagweld y gallai fod amgylchiadau pan nad oedd y targed o 0.7% yn cael ei gyrraedd.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i adfer y targed “pan fydd y sefyllfa ariannol yn caniatáu”.

“Mae effaith y pandemig ar gyllid cyhoeddus wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol ar sut rydym yn gwario arian trethdalwyr, gan gynnwys lleihau’r gyllideb cymorth dros dro i 0.5% o GNI (incwm cenedlaethol gros),” meddai’r llefarydd.