Mae ymgyrchwyr wedi dweud y gallai teulu bachgen 13 oed a fu farw ar ôl iddo gael ei wthio i mewn i afon fynd ar drywydd erlyniad preifat yn erbyn y bachgen oedd yn gyfrifol.

Cafodd Christopher Kapessa ei wthio i mewn i Afon Cynon gan fachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2019.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio ag erlyn y bachgen dan sylw, gan ddisgrifio’r digwyddiad fel “pranc ffôl”.

Mae teulu Christopher wedi cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu De Cymru o hiliaeth sefydliadol, a ddydd Iau bydd cyfreithwyr sy’n cynrychioli ei fam, Alina Joseph, yn mynd i’r Uchel Lys i ofyn am adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i beidio ag erlyn.

“Nid ydym yn mynd i roi’r ffidil yn y to”

Wrth siarad â BBC Wales Investigates, dywedodd Suresh Grover, o ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth ‘The Monitoring Group’, sydd wedi bod yn cefnogi’r teulu, na fydden nhw’n “ildio” pe bai’r cais am arolwg yn cael ei wrthod gan ynadon.

“Nid ydym yn mynd i roi’r ffidil yn y to – byddwn yn edrych ar bopeth posibl, gan gynnwys erlyniad preifat neu droseddol,” meddai.

“Mae Christopher Kapessa yn brawf i’r system cyfiawnder troseddol yn ne Cymru.

“Os byddan nhw’n methu’r prawf hwn, bydd y difrod a wneir i Wasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu yn anadferadwy.”

“Mae’n rhaid i mi ddelio â hyn – does gen i ddim dewis.”

Dywedodd Ms Joseph wrth BBC Wales Investigates, fydd yn cael ei darlledu heno (nos Lun 7 Mehefin): “Fel mam, dydych chi ddim jyst yn rhoi’r gorau i rianta unwaith maen nhw wedi marw.

“Nid yw Christopher yn caniatáu i mi eistedd i lawr a rhoi’r gorau iddi.

“Felly hyd yn oed os yw’n mynd i gymryd 10 mlynedd, 15 mlynedd, mae’n rhaid i mi ddelio â hyn – does gen i ddim dewis.”

Ychwanegodd: “Rwy’n credu pe bai Christopher yn blentyn gwyn ac ymhlith faint bynnag o blant oedd yno – a bod y plant hynny’n ddu – y byddai’r ymchwiliad o’r dechrau, a’r holl ffordd i’r diwedd, wedi bod yn wahanol iawn.”

Pasiodd Heddlu De Cymru ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, a ddywedodd nad oedd dwyn achos o ddynladdiad yn erbyn y bachgen dan sylw “o fudd i’r cyhoedd” er gwaethaf “tystiolaeth i gefnogi erlyniad”.

Cadarnhawyd y penderfyniad mewn adolygiad a gynhaliwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl i deulu Christopher apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol.

“Marwolaeth drasig”

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu Christopher yn dilyn ei farwolaeth drasig.

“Rydym yn hynod ymwybodol wrth edrych ar achosion sy’n ymwneud â phobl ifanc…

“Adolygodd erlynydd arbenigol y dystiolaeth a chanfu nad oedd yn cwrdd â’n prawf cyfreithiol ar gyfer erlyn y person ifanc a ddrwgdybir.

“Ni chwaraeodd hil unrhyw ran yn ein penderfyniadau ac nid oedd unrhyw beth yn natganiadau’r tystion ifanc i awgrymu unrhyw faterion hiliol na bod hyn yn drosedd casineb.”

  • Gallwch wylio BBC Wales Investigates: Christopher – The Boy Who Never Came Home heno (dydd Llun 7 Mehefin) am 8.25pm ar BBC One Wales ac wedyn ar BBC iPlayer.