Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi dweud wrth Aelodau Seneddol nad yw gwelliant i wyrdroi toriadau’r Llywodraeth i gymorth tramor wedi’i ddewis i gael ei ystyried.
Roedd Boris Johnson yn wynebu’r posibilrwydd o wrthdystiad gan ddwsinau o Dorïaid blaenllaw ynghylch ei benderfyniad i dorri gwariant cymorth tramor y Deyrnas Unedig.
Roedd y cyn-brif weinidog Theresa May a chyn-weinidogion y cabinet, Andrew Mitchell a David Davis, ymhlith y Ceidwadwyr wnaeth wrthdystio a chefnogi’r gwelliant.
Torrodd Boris Johnson wariant cymorth o 0.7% o incwm cenedlaethol crynswth (GDP) i 0.5% wrth i’r pandemig Covid-19 daro’r economi, ond mae gweinidogion yn mynnu mai dim ond mesur dros dro fydd hwn.
Mae’r targed o 0.7% wedi’i gynnwys yn y gyfraith ac roedd ei gynnal yn un o ymrwymiadau maniffesto’r Torïaid yn 2019, ond byddai ei dorri’n arbed tua £4bn.
Roedd tua 30 o aelodau seneddol Torïaidd yn gobeithio defnyddio gwelliant i ddeddfwriaeth a oedd yn sefydlu’r Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Pellach (Aria) i orfodi’r corff newydd i wneud yn iawn am y cyllid i gyrraedd y nod o 0.7%.
Fodd bynnag, cafodd hyn ei rwystro gan na chafodd y gwelliant ei ddewis ar gyfer ystyriaeth gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Cyhoeddodd Syr Lindsay Hoyle mewn datganiad am 3.30 brynhawn heddiw (dydd Llun, Mehefin 7) nad oedd wedi dewis y gwelliant i’w drafod.
Roedd nifer y gwrthdystwyr Torïaidd yn ddigon i achosi nerfusrwydd yn rhengoedd y Llywodraeth er gwaetha’r ffaith fod ganddyn nhw fwyafrif cyfforddus o 85.
‘Achosi marwolaethau ledled y byd’
Dywedodd David Davis, cyn-Ysgrifennydd Brexit San Steffan, wrth raglen ‘Today’ ar BBC Radio 4 y byddai’r toriadau “niweidiol” a “dinistriol” yn arwain at farwolaethau ledled y byd.
Bydd toriadau enfawr mewn ymdrechion i ddarparu dŵr glân, a fydd yn lladd plant ledled y byd, ac mewn cyllid ar gyfer bwyd i bobl sy’n newynu, “lle, unwaith eto, bydd miloedd yn marw”, meddai wrth y rhaglen.
“Nid oes yr un wlad arall yn y G7 yn torri ei chymorth fel hyn. Mae’n mynd i gael canlyniadau dinistriol ar draws y byd,” meddai.
“Yn hanesyddol, rwy’n feirniad o wariant ar gymorth tramor, ond mae ei wneud fel hyn mor niweidiol.”
Ychwanegodd fod yr Almaen, Ffrainc a’r Unol Daleithiau yn arweinwyr mewn gwariant yn y maes hwn, gan ychwanegu nad “ydym yn arweinydd mwyach – mewn gwirionedd rydym yn taflu dylanwad enfawr, yn enwedig yn Affrica, lle mae brwydr ideolegol gyda Tsieina.”
“Yn foesol, mae hyn yn beth dinistriol i ni fod wedi’i wneud,” meddai.
Tanseilio hygrededd y Deyrnas Unedig
Mae Downing Street yn awgrymu y gallai gwariant ar gymorth tramor fod yn fwy na’r targed o 0.5% o incwm cenedlaethol crynswth pan gaiff y brechlynnau coronafeirws eu hystyried.
Dywed llefarydd swyddogol y Prif Weinidog y bydd Boris Johnson yn nodi mwy o fanylion yn uwchgynhadledd y G7 am rannu dosau dros ben gyda chenhedloedd sy’n datblygu.
“Fel sy’n safonol, byddai unrhyw gyllid sydd o fudd i leihau tlodi mewn gwledydd sy’n datblygu yn cyfrif fel cyllid ODA (Cymorth Datblygu Swyddogol),” meddai.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai gwariant ychwanegol ar ben y gyllideb cymorth bresennol, dywedodd y llefarydd fod y “£10bn wedi’i ddyrannu i raddau helaeth yn y cynlluniau gwariant sydd eisoes wedi’u nodi o ran cyllid y ODA” ond na fyddai’n “neidio o flaen yr hyn y gallai’r prif weinidog ei ddweud yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran yr ymrwymiad”.
Mae tua 1,700 o elusennau, academyddion ac arweinwyr busnes wedi ysgrifennu ar y cyd at y prif weinidog i’w rybuddio y bydd hygrededd a llais y Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol yn cael eu tanseilio.
Daw hyn wrth iddo baratoi i gynnal arweinwyr gwledydd y G7, a fydd yn cynnwys ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf â Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Dywed y llythyr fod y toriadau cymorth yn “ergyd ddwbl” i gymunedau tlotaf y byd yng nghanol pandemig.