Mae dyn o Ogledd Corneli ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gael yn euog o achosi marwolaeth dyn 19 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhorthcawl yn 2016.

Roedd Nigel Davies, 54, wedi gwadu achosi marwolaeth Deividas Andrijauskas drwy yrru’n beryglus ac yn ddiofal ar ffordd A4106.

Ond cafwyd e’n euog yn Llys y Goron Caerdydd o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Orffennaf 5.

Mae’r heddlu wedi talu teyrnged i “amynedd arbennig ac urddas” y teulu yn ystod yr ymchwiliad “trawmatig”.

Mae teulu Deividas Andrijauskas wedi diolch i’r heddlu am eu cefnogaeth yn ystod achos llys “anodd” wrth iddyn nhw orfod “ailfyw” marwolaeth eu mab.