Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi clywed nad oedd manylion adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2009, yn mynegi pryderon bod y cwmni oedd yn rheoli Tŵr Grenfell yn torri rheoliadau diogelwch tân, wedi cael eu rhannu â’r bwrdd rheoli ar y pryd.

Cafodd cwmni Salvus gytundeb gan Sefydliad Rheoli Tenantiaeth Kensington a Chelsea (TMO) ar ddechrau mis Medi 2009 i gynnal asesiadau risg tân ar stoc dai ar ran Bwrdeistref Brenhinol Kensington a Chelsea.

Cafodd eu hadroddiad ei greu ar Fedi 22, ac roedd yn nodi 19 o feysydd lle’r oedd torri’r rheolau’n destun pryder, ac fe gawson nhw eu cofnodi fel meysydd “coch”.

Y cyngor ar y pryd oedd y dylid gweithredu ar sail y pryderon o fewn mis neu o fewn tri mis, neu y dylid cytuno ar gynllun gweithredu chwe mis.

Ymhlith y pryderon roedd diffyg datganiad polisi diogelwch tân a diffyg systemau cofnodi neu systemau annigonol, ac roedd yn argymell y dylid ystyried camau diogelwch tân ar gyfer pobol ag anableddau neu bobol fregus.

Tystiolaeth

Wrth roi tystiolaeth heddiw (dydd Llun, Mehefin 7), dywedodd Janice Wray, cyn-reolwr iechyd a diogelwch TMO, fod rhai materion a gafodd eu codi’n anymarferol ond roedd hi’n cydnabod na chafodd cofnodion manwl eu cadw wrth asesu risg.

Dywedodd ei bod hi wedi cydweithio â rheolwyr i benderfynu a oedd angen asesiadau risg unigol er mwyn dianc yn ddiogel ar breswyliaid, ond roedd hi’n “annhebygol” y byddai gan TMO staff a fyddai’n gallu eu cynorthwyo i weithredu’r cynlluniau.

Dywedodd fod peth dogfennaeth wedi cael ei diweddaru wrth wirio risgiau, ond y byddai’n “cymryd gormod o lawer o amser” i gofnodi datganiad polisi diogelwch tân yn gywir, ond fod y gwaith wedi bod ar y gweill ers peth amser.

Clywodd yr ymchwiliad ei bod hi wedi llunio adroddiad ar Hydref 8, 2009 i fwrdd TMO ar ôl cyfarfod â Salvus, gan nodi bod adborth i TMO yn nodi bod ganddyn nhw bolisïau diogelwch tân “da” ond nad oedden nhw “wedi’u cofnodi’n gyson”.

Wrth gael ei holi pam nad oedd hi wedi sôn am y “pryderon brys a hanfodol” yn adroddiad Salvus ddeuddydd cyn y cyfarfod, dywedodd nad oedd hi wedi derbyn yr adroddiad tan fis Tachwedd.

Byddai hynny’n golygu, felly, nad oedd hi’n ymwybodol o’r 19 o achosion o dorri rheolau diogelwch, ac mae’n dweud ei bod hi’n “hollol sicr” nad oedd hi’n ymwybodol ohonyn nhw.

Dywedodd adroddiad pellach ganddi ar Ragfyr 10 fod TMO wedi derbyn “adroddiad rheoli” yn “amlinellu’r fframwaith diogelwch tân” y dylen nhw fod wedi bod yn ei weithredu.

Dywedodd ymhellach nad oedd hi’n “gallu meddwl” pam nad oedd sôn am dorri’r rheolau yn ei hadroddiad i Salvus, ac y byddai’r adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan ei rheolwr llinell.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.