Kayley Sydenham o Gasnewydd yw Prifardd Eisteddfod T eleni.

Cafodd ei henw ei ddatgelu yn ystod seremoni olaf yr ŵyl heddiw (Mehefin 4), a gafodd ei ddarlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Ar ôl gorffen sefyll ei Lefel A yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, mae Kayley yn edrych ymlaen at fynd i’r Brifysgol i astudio’r Gymraeg a Newyddiaduraeth ym mis Medi.

Cyfansoddi ac arlunio yw ei phrif ddiddordebau, a gwnaeth Kayley y mwyaf o’r cyfnod clo drwy barhau ar ei thaith i feistroli’r gynghanedd, yn ogystal â chychwyn menter creu printiau Cymreig ar leino.

Talodd y gwaith caled ar ei ganfed heddiw, wrth i Mererid Hopwood ddyfarnu’r wobr iddi.”

‘Gorffenedig’

Roedd gofyn i’r cystadleuwyr lunio cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 70 llinell o hyd, ac er i 40 gystadlu, cerdd Kayley oedd yn cynnig “y cyfanwaith mwyaf gorffenedig yn y gystadleuaeth eleni” meddai Mererid Hopwood.

“Fel cerdd mae’n argyhoeddi’r darllenydd o weledigaeth ddidwyll,” ychwanegodd y beirniad. “Yn ei huchelgais, dydy hi ddim yn syrthio i’r fagl o fod yn rhy astrus ond yn hytrach yn defnyddio delweddau’n sylwgar i ddweud ei dweud yn grefftus, synhwyrus.”

“Dim ond barn un, ydy barn beirniad,” meddai Mererid Hopwood yn ystod y seremoni. “Y peth pwysicaf felly yw llongyfarch pawb. Waeth pwy fydd yn cipio safle’r cyntaf heddiw, mae’r tri sydd yma ym mhafiliwn arbrofol Eisteddfod T yn enillwyr.”

Fel enillwyr eraill seremonïau’r wythnos, bydd Kayley yn derbyn tlws wedi’i greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.

Daeth Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Conwy, a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor ddoe, yn ail.

Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed oedd yn drydydd.

Gallwch ddarllen gwaith y tri ddaeth i’r brig yma:

Cystadleuaeth y Prifardd

Y gwaith ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Prif Lenor eleni