Wrth i theatrau baratoi at ailagor wedi’r cyfnod clo, mae galwadau iddyn nhw fod yn fwy hygyrch i bobol ag anableddau.

Dros y cyfnod clo, bu’n rhaid i’r sector addasu a chyrraedd cynulleidfaoedd drwy ffyrdd digidol, a byddai parhau â hynny’n “gwell pethau” yn ôl un sy’n byw ag anableddau.

Dywedodd Ant Evans wrth golwg360 ei fod e’n ei chael hi’n anodd teithio i gynyrchiadau’n aml, a bod cael cynyrchiadau ar-lein wedi gwneud hynny’n haws dros y pandemig.

Un arall sy’n cefnogi’r galwadau, ac sydd o blaid sicrhau fod perfformiadau’n dod at y bobol i’w cymunedau, yw Llŷr Titus, un o griw Cwmni Tebot, cwmni theatr cymunedol yn Llŷn.

Yn ôl Llŷr Titus, mae’n “gwbl hanfodol” nad yw’r sector yn anghofio gwersi’r pandemig, yn gwrando ar leisiau pobol anabl, ac yn newid eu ffordd o feddwl.

Anawsterau teithio

“Y prif beth i mi ydi teithio dweud y gwir, nid bod hynny wedi bod yn ffactor yn ystod y flwyddyn neu fwy ddiwethaf, wrth gwrs,” meddai Ant Evans, sydd â nam ar ei olwg, gwendid lawr ochr dde ei gorff, a chyflwr Hydrocephalus

“Cyn hynny, roedd teithio a finnau methu gyrru car ac felly’n llwyr ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly bysus, trenau, ac ati… os oedd yna rywbeth yn y Galeri yma yng Nghaernarfon roedd o’n wych.

“Os nad oedd perfformiadau’n lleol… os oedd rhaid teithio’n bell i weld rhywbeth roedd gen i awydd ei weld, roedd ceisio amseru popeth i gyd-fynd efo amserlenni bysus neu drenau, neu feddwl am gostau aros dros nos, yn gwneud pethau’n gyfyng iawn o ran a oeddwn i’n gallu mynd i weld pethau.

“Dweud y gwir, unwaith dw i’n cyrraedd yr adeiladau eu hunain, does dim gymaint â hynny o anawsterau wedi bod gen i’n bersonol,” meddai Ant Evans wrth golwg360.

“Wedi dweud hynny, dw i’n reit ffodus yn yr ystyr mod i heb orfod dibynnu ar gadair olwyn ers ro’n i’n dair-ar-ddeg.

“Felly, dydw i ddim yn gorfod ystyried pethau ella fysa rhywun mewn cadair olwyn yn gorfod ei hystyried fel mynd fyny staer, a chael hyd i lifft er mwyn cyrraedd pa bynnag lwyfan mae’r perfformiad yn cael ei chynnal arni ac ati.”

“Gwella pethau”

Dywedodd Ant Evans, sy’n byw yng Nghaernarfon ond yn dod o Harlech yn wreiddiol, y byddai’n dda gweld mwy o gwmni theatrau yn teithio o amgylch pentrefi a chymunedau Cymru, gan fynd at y bobol.

Ychwanegodd y byddai gweld mwy o gynyrchiadau’n parhau i gael eu darlledu ar-lein ar ôl y pandemig yn “gwella pethau”.

“Dw i’n meddwl bysa hynny bendant yn gwella pethau, o safbwynt pobol anabl sy’n gweld hi’n anoddach teithio i lefydd i weld perfformiadau.

“Fyswn i’n hoffi gweld hynny’n parhau i’r dyfodol, hyd yn oed rŵan bod pethau’n dechrau llacio byswn i’n sicr wrth fy modd yn gweld pethau’n parhau efo llwyfan digidol, yn ogystal â bod yn y theatrau eu hunain.”

“Cysyniad reit ableist

“Rydyn ni wedi clywed ar hyd yr amser am y syniad ’ma na fedrwn ni roi recordiad allan ar y we achos bod o ddim yn ymarferol, neu fod o ddim y profiad gorau,” meddai Llŷr Titus, sy’n un o sylfaenwyr Cwmni Tebot, wrth golwg360.

“Sydd yn ei hun yn gysyniad reit ableist, pan ti’n meddwl am y peth – maen nhw’n deddfu ‘wel y ffordd hyn ydy’r ffordd orau i brofi theatr’ – wel ella bod hynny ddim o reidrwydd yn wir, os oes gen ti ofynion mynediad, os wyt ti’n ei chael hi’n anodd gadael y tŷ, mi fysa gweld perfformiad ar y teledu yn ffordd lawer iawn gwell i chdi.

“Mae’r syniad yma mai ond un ffordd alli di brofi theatr, ac i raddau hefyd, mai ond un math o theatr neu gelfyddyd sy’n worthy, yn rhywbeth reit broblematig i’m meddwl i.

“Roedd yna lot o sôn am hynny, ‘fedrwn ni ddim gwneud hynny’, er bod nifer o gwmnïau theatr yn cadw cofnod fideo o’u cynyrchiadau… Ond bod nhw ddim yn gallu rhannu nhw allan am ba bynnag reswm.

“Ond gynted ddaeth Covid, gynted doedd pobol abl ddim yn gallu mynd i theatrau, wel mwyaf sydyn roedd hi’n bosib gwneud y pethau ’ma i gyd.

“Gynted oedd y mwyafrif abl eisiau’r pethau yma, wel mi fedra nhw symud y ddaear a’r nef er mwyn gwneud.

“Felly mae yna elfen o ragrith yna yn fy meddwl i, dw i’n dallt bod pobol wedi cyffroi bod ni’n gallu ailagor, mae o’n grêt a dw i’n cytuno.”

“Newid ffordd o feddwl”

“Mae o’n gwbl hanfodol ein bod ni ddim yn anghofio’r gwersi rydyn ni wedi’u dysgu yn y cyfnod yma,” pwysleisiodd Llŷr Titus.

“A hefyd bod ni ddim yn mynd i feddwl unwaith eto fod perfformiad byw yn rhywbeth gwell, achos dw i wedi gweld perfformiadau ar y we sydd wedi bod yn gwbl ffantastig.

“Dydi bod o mewn ffurf byw, a bo’ chdi wedi talu dros ddegpunt i eistedd mewn cadair ddim yn golygu fod o o reidrwydd yn well, nag yn fwy gwreiddiol.

“Newid y ffordd feddwl ydi o mewn ffordd,” ychwanegodd.

“Mae isio meddwl am y pethau yma. Rydyn ni wedi dangos fel sector ein bod ni’n gallu addasu, a gallu gwneud y pethau yma dan amgylchiadau uffernol o heriol.

“Os ydan ni’n cadw’r ysbryd yna, a meddwl am bawb, yna fysa pethau lot gwell.

Dywedodd Llŷr Titus y byddai’n dda gweld cwmniau theatr yn rhyddhau perfformiadau ar ffurf ddigidol, hyd yn oed ychydig wythnosau wedi’r sioe fyw, a hynny gydag isdeitlau, a rhywun yn gwneud iaith arwyddo “fel bod y theatr mor agored i bawb â phosib”.

“Yn amlwg, ti’m yn mynd i gyrraedd pawb, ond fedri di drio dy orau.”

“Dw i’n gwybod fod o’n hawdd i fi sefyll yn fan yma ac arthio hyn a llall ac arall, ond wedi dweud hynny mae o yn rhywbeth ddyla fod yn cael mwy o ystyriaeth.”

“Pryder go iawn”

“Mae pethau wedi bod ychydig haws i rai pobol anabl dw i wedi bod yn siarad â nhw yn ystod y cyfnod yma am fod modd cael y pethau yma ar y we, a bod dim rhaid mynd i ddarlith yn gorfforol,” esboniodd Llŷr Titus.

“Mae yna bryder go iawn wan y bydd pethau’n mynd yn ôl i’r hen drefn, ac mae o’n bryder cwbl ddilys.”

“Dw i’n cydnabod fy hun, doeddwn i ddim yn meddwl gymaint ynghylch y pethau yma cyn i fi fynd i berthynas gyda rhywun sy’n anabl, mwyaf cywilydd i mi.

“Dydi o ddim o reidrwydd bod y bobol yma’n faleisus, neu ddim eisiau gwneud y pethau yma, dydyn ni just ddim yn meddwl yn eu cylch nhw.

“Mae isio i ni gael y ddeialog onest yna, ac mae eisiau gwrando ar leisiau pobol anabl.

“Dydy gofynion pawb ddim yr un peth chwaith, mae just sôn am bobol anabl fel ryw un gymuned lle mae pawb yr un peth, wel dydy hynny ddim yn gywir chwaith.”

Hygyrchedd a mynediad

“O ran hygyrchedd yn gyffredinol, rhywbeth dw i’n reit danbaid yn ei gylch o: mynediad pobol sydd ddim o reidrwydd yn gynulleidfa draddodiadol theatraidd at y celfyddydau,” eglurodd.

“Fel rhywun sy’n byw ym Mhen Llŷn, ac o gefndir dosbarth gweithiol, dydy dreifio awr i weld perfformiad theatrig ddim yn ymarferol. A does gan bawb ddim car,” meddai Llŷr Titus, wrth drafod tueddiadau cwmniau theatr i ymweld â chanolfannau mawr,

“Dydy o ddim yn fater o roi ramp wrth y drws, mae isio cyrraedd y drws.

“Mae gen ti broblemau yn y ffyrdd mae theatr yn cael eu gweld gan bobol, eu bod nhw ddim yn meddwl fod o’n berthnasol iddyn nhw.

“Mae pethau fel prisiau tocynnau yn gallu bod yn rhwystr hefyd.

“Fedri di ddim rili honni fod rhywbeth ddim yn elitaidd os wyt ti’n gorfod talu trwy dy drwyn i fynd i’w weld.

“Pres cyhoeddus sy’n cadw’r sector i fynd beth bynnag, ac mae isio morol fod pawb o’r cyhoedd yn gallu manteisio arno. Dim just carfan benodol,” meddai.

“Theatr deithiol”

“Mae yna elfen o sut fathau o gynyrchiadau ti’n eu gwneud,” ychwanegodd Llŷr Titus, gan ddweud fod sioeau clwb Bara Caws yn fwy poblogaidd na dim byd arall o ran niferoedd yng Nghymru, ond mai yn anaml iawn mae’r math yna o beth yn digwydd.

“Dw i o blaid mynd â’r theatr i ganolfannau bychan, pentrefi a rhyw bethau felly, achos mae hynny’n haws i bobol yn aml iawn.

“Os wyt ti eisiau meddwl am beth ydy theatr gynhenid Gymreig, wel theatr deithiol, yn mynd i gymunedau bychan efo sioeau hwyliog, dychanol… siarad am bethau oedd pobol yn poeni amdanyn nhw oedd yr anterliwtiau.

“A dyna ydi theatr Gymraeg gynhenid, nid efelychu system allanol yn Lloegr efo theatrau mawr mewn dinasoedd ac ati.”