Mae enillydd cystadleuaeth Unawd 19-25 oed Eisteddfod T eleni wedi cael ei wahodd i berfformio fel gwestai arbennig yng Ngŵyl Cymru Gogledd America 2021.

Ar ddiwrnod olaf y darlledu (4 Mehefin), mae’r tenor Dafydd Wyn Jones o Lanrhaeadr, Sir Ddinbych, wedi cael ei wahodd i ganu yn Utica, Efrog Newydd ym mis Medi.

Mae’r ŵyl yn dyddio’n ôl i’r un flwyddyn ag y cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf, sef 1929.

Y flwyddyn honno, teithiodd 4,000 o bobol i Niagra Falls ar gyfer y Gymanfa Ganu Genedlaethol i Gymry America.

Erbyn hyn, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn, naill ai yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada.

Cymynrodd

Wrth i’r Urdd nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2022, mae gan y mudiad gynlluniau i godi proffil Cymru a dathlu cyfoeth diwylliannol y wlad, yn ogystal â rhannu arferion da gyda chysylltiadau rhyngwladol yn sgil llwyddiant cynyddu’r defnydd, hyder, a mwynhau o iaith leiafrifol.

Daw’r cyfle unigryw i Dafydd o ganlyniad i gymynrodd i’r Urdd gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd yn byw yn Florida ers blynyddoedd, ond oedd ag atgofion da am Eisteddfodau.

Dyweda’r Urdd eu bod nhw’n hynod ddiolchgar i Dr Thomas a’i deulu am y gymynrodd sy’n galluogi cynnig profiadau unigryw i Dafydd, ac i sawl unawdydd buddugol yn y dyfodol.

“Mae cynnig cyfleoedd newydd a phrofiadau rhyngwladol i’n pobl ifanc yn flaenoriaeth, ac mae cyfleodd perfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn enghraifft berffaith o’r math o gyfleoedd unigryw sy’n medru codi o fod yn aelod o’r Urdd, a hynny yn ddiolch i garedigrwydd a haelioni Dr Thomas deulu,” meddai Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol yr Urdd.